Newyddion S4C

Biliau ynni i 'lyncu 10% o’r cyflog cyfartalog' o fis Ebrill

Boeler olew

Bydd biliau ynni yn llyncu 10% o’r cyflog cyfartalog o fis Ebrill ymlaen, yn ôl ymchwil newydd.

Dywedodd Cyngres Undebau Llafur y TUC y bydd bil ynni cyfartalog yn codi i £250 y mis - mwy na dwbl yr hyn oedd pobol yn ei dalu flwyddyn yn ôl.

Mae’r undeb wedi galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus er mwyn rhoi pwysau ar gwmnïau preifat i ostwng biliau.

Bydd gweithiwr ar yr isafswm cyflog yn wynebu biliau werth 16% o’u cyflog misol o fis Ebrill ymlaen - cynnydd sylweddol ar 8% y llynedd, yn ôl y TUC.

“Mae’n hen bryd i’r llywodraeth ganslo'r codiad arfaethedig mewn biliau ynni yn y gyllideb fis nesaf,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Paul Nowak.

“Mae teuluoedd ar draws Prydain yn cael eu gyrru i ymyl y dibyn gan filiau ynni hynod o uchel.”

‘Sicrwydd’

Dywedodd Ysgrifennydd Ynni'r DU, Grant Shapps, fod ganddo gynllun er mwyn sicrhau bod biliau yn dod i lawr yn y dyfodol.

Wrth gyhoeddi’r cynllun yr wythnos hon dywedodd y byddai'r Deyrnas Unedig o flaen y gad wrth fuddsoddi mewn ynddi adnewyddadwy.

“Byddaf yn gosod Prydain ar lwybr at sicrwydd ynni trwy gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy a niwclear yn sylweddol,” meddai.

“ Dyma ein cynllun i gymryd pŵer yn ôl, a defnyddio adnoddau Prydeinig er mwyn gyrru Prydain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.