Enwi tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth yr SNP

Mae'r tri a fydd yn cystadlu ar gyfer arweinyddiaeth yr SNP yn yr Alban wedi eu henwi.
Caeodd yr enwebiadau am 12:00 ddydd Gwener, a'r Ysgrifennydd Iechyd, Humza Yousaf, yr Ysgrifennydd Cyllid, Kate Forbes, a'r cyn weinidog diogelwch cymunedol, Ash Regan, a fydd yn brwydro i olynu Nicola Sturgeon.
Cyhoeddodd Nicola Sturgeon yr wythnos ddiwethaf ei bwriad i ymddiswyddo fel Prif Weinidog yr Alban ar ôl mwy nag wyth mlynedd wrth y llyw.
Dywedodd mai rhan o wasanaethu oedd gwybod yn "reddfol" ei fod yn amser rhoi'r gorau iddi, ond mai dyma'r peth gorau i "yr achos dros annibyniaeth yr ydw i wedi cysegru fy mywyd iddo".
Roedd angen i ymgeiswyr gael o leiaf 100 o enwebiadau gan o leiaf 20 cangen plaid leol i fynd ymlaen i'r rownd nesaf.
Yn dilyn hyn, bydd aelodau yn pleidleisio, gydag enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 27 Mawrth.
Llun: Ash Regan, Humza Yousaf, a Kate Forbes. Llun gan Jane Barlow/Andrew Milligan/PA.