Newyddion S4C

Ymgynghori ar ddewis un o dri safle ar gyfer ysbyty newydd yn Sir Gâr

23/02/2023
Doctoriaid / Nyrsys / Ward / Ysbyty

Mae tri safle posib ar gyfer ysbyty newydd yn Sir Gaerfyrddin wedi cael eu dewis.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda lansio ymgynghoriad ddydd Iau, ac mae'r safleoedd yn cynnwys dau leoliad ger Hendy-gwyn ac un ger Sanclêr.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 19 Medi.

Dywedodd y bwrdd iechyd mai'r gobaith yw sicrhau bod gofal iechyd ar gael yn agosach i gartrefi bobl.

Nid oes disgwyl i'r ysbyty gael ei adeiladu tan o leiaf 2029.

'Cenedlaethau'r dyfodol'

Wrth i'r ymgynghoriad cael ei lansio, dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Maria Battle bod y bwrdd eisiau "cynllun ysbyty cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

"Bydd hwn yn gwella a sicrhau bod mwy o wasanaethau gofal yn gallu cael eu darparu yn Hywel Dda a delio gyda heriau hirdymor, gan gynnwys ysbytai hen, problemau gyda chynnal rotas meddygol ar draws nifer o ysbytai a recriwtio staff."

Ychwanegodd y prif weithredwr, Steve Moore: "Nid oes gennym un safle rydym yn ffafrio mwy na'r llall a dydym heb brynu unrhyw safle neu dir ar gyfer y datblygiad.

"Mae prynu safle a darparu ysbyty newydd yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, sydd heb ei gadarnhau eto."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.