Tro pedol cyngor ar gynllun i symud Amgueddfa Caerdydd o ganol y brifddinas

Ni fydd Amgueddfa Caerdydd yn cael ei symud o ganol y brifddinas, yn dilyn tro bedol gan y cyngor.
Yn sgil trafodaethau cyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2023/24, cyhoeddwyd y bydd yr amgueddfa yn aros yn ei lleoliad presennol yn yr Hen Lyfrgell.
Daw hyn ar ôl i’r cyngor ddatgan ym mis Rhagfyr y llynedd eu bod yn ystyried symud yr amgueddfa a'i throi’n atyniad symudol er mwyn arbed arian.
Mae ymddiriedolwyr Amgueddfa Caerdydd yn dweud bod y newyddion “yn hynod o bositif”.
Dywedodd llefarydd ar ran ymddiriedolwyr yr amgueddfa: “Nawr mi fyddwn ni’n ymgymryd ag asesiad manwl i geisio sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r amgueddfa. Mi fydd gweithgor yn adolygu cyllideb hir dymor yr amgueddfa a’r posibilrwydd o symud i leoliadau gwahanol yn y dyfodol.”
Cafodd trafodaethau’r cyngor oedd yn ystyried symud lleoliad yr amgueddfa eu beirniadu’n hallt y llynedd.