Newyddion S4C

Cyngor Caerdydd yn ystyried cau Amgueddfa'r brifddinas

Newyddion S4C 21/12/2022

Cyngor Caerdydd yn ystyried cau Amgueddfa'r brifddinas

Mae’n gyfnod pan mae arbedion ariannol yn anochel i awdurdodau lleol ac i Gyngor Caerdydd, fel nifer o gynghorau eraill mae yna benderfyniadau anodd i’w gwneud.

Mae’r cyngor yn ystyried cau Amgueddfa Caerdydd sydd wedi ei lleoli yn yr Hen Lyfrgell a’i throi’n atyniad symudol, a hynny medden nhw i arbed arian.  

Dywedodd aelod o Gymdeithas Sifig Caerdydd, Mike Webb, ei bod hi'n "andros o bechod bod y fath benderfyniad 'di cael ei 'neud".

"Mae'n warthus bod yr adeilad hyfryd a'r pobl sy'n gweithio ynddo o dan bygythiad gan agwedd annheg iawn Cyngor Caerdydd," meddai.

"Ma' 'na batrwm bod Cyngor Caerdydd i'w gweld ddim yn poeni o gwbl amdan pobl Caerdydd, cymunedau Caerdydd.  Ma' Caerdydd wedi cael ei 'neud yn Gaerdydd gan y pobl cyffredin, o pobl sy' wedi gweithio lawr yn y dociau, o pobl sy' wedi gweithio ar y rheilffyrdd.  Dyna beth yw Caerdydd, dyna beth yw gwreiddiau Caerdydd."

Ddydd Gwener fe fydd y cyngor yn ystyried dau opsiwn sef gwneud yr amgueddfa yn un symudol gyda thîm bychan yn cynnal arddangosfeydd o amgylch Caerdydd.

Yn ôl y cyngor fe all y cam hwn arbed £266,000 y flwyddyn gan ganiatáu'r cyngor i ail-agor yr amgueddfa mewn cartref parhaol yn y dyfodol, os fydd lleoliad addas a chyllid ar gael.  

Yr opsiwn arall fyddai i gadw’r amgueddfa ar agor a dod o hyd i arbedion eraill. 

Tua wythnos yn ôl, fe benderfynodd y cyngor drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros Neuadd Dewi Sant i gwmni allanol yn sgil costau cynyddol o ran cynnal a chadw’r adeilad.

Pryder rhai yw efallai fod hyn yn rhan o batrwm, gyda sefydliadau diwylliannol fel y rhain yn teimlo min y fwyell gyntaf.

Yn ôl Cyngor Caerdydd mae bwlch ariannol o £53 miliwn yn eu cyllideb, ac maen nhw’n bwriadu gwneud arbedion o £8.5 miliwn.  

Er mwyn paratoi ar gyfer y “storm ariannol” y maen nhw’n ei hwynebu.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.