
'Dagrau' wrth i seren Love Island o Gymru ymweld â'r ynys lle'r oedd ei hynafiaid yn gaethweision

Mae seren Love Island o Gymru wedi darganfod bod ei hynafiaid wedi'u cludo o Affrica i Jamaica yn gaethweision.
Fe wnaeth Connagh Howard serennu yn y gyfres gyntaf o Love Island y gaeaf yn 2020.
Mae'r cyn-fodel bellach wedi bod yn darganfod mwy am hanes ei deulu gyda'i dad, Wayne, wrth gymryd rhan yn y rhaglen S4C, Teulu, Dad a Fi.
Fel rhan o'r rhaglen, mae Connagh yn clywed hanes ei daid, Neville, a wnaeth guddio ar long o'r Caribî i'r DU yn 19 oed.
Treuliodd Neville 28 diwrnod yn y carchar ar ôl cyrraedd porth Southampton, cyn iddo deithio i Gaerdydd lle y dechreuodd deulu.
Wrth ddysgu mwy am hanes Neville, fe wnaeth Connagh a Wayne deithio i'r ardal lle cafodd ei eni yn Kingston, Jamaica.
Bu'r ddau yn ymweld â Trenchtown, yr ardal cafodd ei wneud yn enwog gan y canwr reggae Bob Marley, a safle'r hen blanhigfa yng ngogledd yr ynys.
Yno fe wnaeth Connagh ddarganfod cofnodion o'i hynafiaid yn cael eu cludo o Affrica i'r blanhigfa fel caethweision yn yr 17eg ganrif gynnar a 18fed ganrif hwyr.

'Emosiynol'
Wrth drafod y profiad, dywedodd Connagh nod Jamaica "tipyn yn wahanol i Love Island."
"Roeddwn i yno yn y man lle cafodd fy hen hen nain a thaid eu geni a lle cafodd fy hynafiaid eu caethiwo," meddai.
"Roedd bod yn Jamaica gyda fy nhad a rhannu'r profiad yma gyda fe yn hollol anhygoel.
"Mae gennym ni berthynas agos ac mae e yn berson emosiynol iawn ac roedd hyn wir yn gyfle i fondio. Fe wnaeth y daith godi lot o atgofion o fy nhaid, roedd hi'n emosiynol iawn ac roedd yna rai dagrau."
'Mwynhau'
Dywedodd Wayne yr oedd yn "gyfle arbennig" i allu mynd ar y daith gyda'i fab.
"Roedd hi'n emosiynol iawn ac roeddwn i'n eithaf crac gyda'r ffordd y cafodd pobl eu trin.
"Roedd y rhain yn fy hynafiaid ac roedden nhw wedi'u cofnodi mewn llyfrau fel teclynnau a'u categoreiddio yn ôl faint o waed du oedd ganddyn nhw.
"Roedd hi yn emosiynol iawn yn Jamaica ac fe wnes i ddweud wrtho 'Dwi'n gobeithio dy fod ti wedi mwynhau'r daith a fyd mod i wedi bod yn dad da i ti.'
"Ac mi ddywedodd o 'Ti di bod y tad gorau erioed' ac fe wnaeth y ddau ohonom ni grio ychydig."
Bydd Teulu, Dad a Fi ar S4C am 9.00pm ddydd Mawrth, 7 Mawrth.