Newyddion S4C

Caerdydd v Abertawe (Huw Evans)

Cynllun 'radical' gan Lywodraeth y DU i ddiogelu dyfodol clybiau pêl-droed

NS4C 23/02/2023

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu creu rheolydd annibynnol er mwyn mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol clybiau pêl-droed yng nghynghrair Lloegr. 

Mae'r cynlluniau "radical" sydd wedi eu cyhoeddi ar ffurf papur gwyn gan Lywodraeth y DU ddydd Iau yn dilyn adolygiad o'r gamp a oedd wedi casglu barn cefnogwyr.

Cafodd yr adolygiad ei lansio yn 2021, wedi i ddau glwb hanesyddol, Bury a Macclesfield Town, fynd i'r wal oherwydd problemau ariannol. 

Fe fydd y rheolydd yn cyflwyno system drwydded ar gyfer clybiau o'r Uwch Gynghrair i'r Gynghrair Genedlaethol - gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. 

Fel rhan o'r system newydd, bydd rhaid i glybiau brofi bod eu cynlluniau busnes yn gynaliadwy yn ariannol cyn iddynt gael cystadlu yn y cynghreiriau. 

Fe fydd hefyd rhaid i glybiau dderbyn caniatâd gan y rheolydd cyn symud neu werthu stadiwm.

Ar ben hyn, mae'r cynlluniau yn rhoi mwy o bŵer i gefnogwyr er mwyn iddynt rwystro perchnogion rhag newid enwau, bathodynnau neu liwiau crysau’r clwb. 

'Beiddgar'

Fe fydd hefyd gan y rheolydd y pŵer i rwystro clybiau rhag ymuno a chystadlaethau newydd a all "niweidio'r gêm ddomestig." 

Daw hyn wedi i chwe chlwb o'r Uwch Gynghrair - Manchester United, Lerpwl, Tottenham Hotspur, Arsenal, Manchester City a Chelsea - geisio ymuno â chynghrair newydd gyda rhai o glybiau mwyaf Ewrop ym mis Ebrill 2021. 

Bu'n rhaid i'r clybiau dynnu allan o'r gynghrair Ewropeaidd newydd yn sgil protestiadau ffyrnig gan gefnogwyr. 

Mae'r Prif Weinidog, Rishi Sunak, wedi croesawu'r cynlluniau newydd yn dilyn yr adolygiad. 

"Er gwaethaf llwyddiannau ein cynghrair pêl-droed, rydym yn gwybod bod yna heriau difrifol sydd yn bygwth cynaliadwyedd ariannol clybiau mawr a bach," meddai. 

"Mae'r cynlluniau beiddgar yma yn rhoi cefnogwyr nôl wrth galon y gêm, gan ddiogelu'r traddodiadau a hanes ein clybiau."

Llun: Caerdydd v Abertawe (Chris Fairweather/Huw Evans Agency).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.