Newyddion S4C

Dralun o Richard Price ym meddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dadorchuddio plac i athronydd o Gymru ar un o strydoedd hynaf Llundain

NS4C 22/02/2023

Mae plac i athronydd o Gymru wedi ei ddadorchuddio ar un o strydoedd hynaf Llundain.

Dywedodd y corff Cadwraeth Lloegr eu bod nhw’n dadorchuddio y plac fel rhan o ddathliadau er mwyn nodi 300 mlynedd ers genedigaeth Dr Richard Price.

Gyda’i lysenw Apostol Rhyddid, yn ei ddydd roedd yn cael ei ddathlu ochr yn ochr â ffigurau byd-eang fel ei ffrindiau Benjamin Franklin, Mary Wollstonecraft a Thomas Jefferson. 

Mae’r plac wedi ei osod ar gyn-gartref Richard Price, 54 Newington Green, sy’n dyddio o 1658. Mae grisiau sy’n dyddio o’r 18fed ganrif yn dal i fodoli yn y tŷ.

Disgrifiwyd yr athronydd radical a fu’n byw yn yr 18fed ganrif fel “y meddyliwr mwyaf gwreiddiol a fagodd Cymru erioed" gan yr hanesydd John Davies.

Dywedodd Cadwraeth Lloegr eu bod nhw hefyd yn ystyried mai Richard Price oedd “un o’r meddyliwyr Cymreig mwyaf erioed”.

Roedd yn byw yn y tŷ rhwng 1758 ac 1787 ac yno bu’n gohebu gyda'i gyfeillion fel Benjamin Franklin a Thomas Jefferson.

Cafodd y tŷ ei chwilio gan awdurdodau’r oes hefyd am ei fod yn gefnogol i’r Chwyldro yn yr Unol Daleithiau.

‘Anhygoel'

Dywedodd y darlledwr Huw Edwards: “Does dim ammheuaeth fod Richard Price yn haeddu bod yn hysbys i bawb.

“Roedd yn athrylith mathamategol ac yn athronydd a diwinydd blaengar y mae ei ddylanwad yn cael ei deimlo hyd heddiw.

“Gobeithio y bydd plac Cadwraeth Lloegr yn help iddo gael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu.”

Yfory bydd bywyd Richard Price yn cael ei gofio yn ei bentref genedigol, Llangeinwyr, yn y Ganolfan Gymunedol sy’n dwyn ei enw.

Bydd yr AS lleol Huw Irranca-Davies yno ynghyd â phobl leol ac ymwelwyr, yno fel ei gilydd i lansio arddangosfa gan Gymdeithas Treftadaeth Cwm Garw, ynghyd â gwrando ar nifer o sgyrsiau byr.

Bydd y rhain yn cynnwys darlleniadau a barddoniaeth o’r ddrama, Price of Change, a fydd yn cael ei llwyfannu’n ddiweddarach yn y flwyddyn gan Contemporancient Theatre, fel rhan o brosiect Price 300.

Dywedodd Vic Mills, prif drefnydd, a chyn Ddirprwy-Bennaeth Coleg Cymunedol y Dderwen a Chyfarwyddwr Contemporancient Theatre ei fod yn “wych gallu dod â’r gymuned leol ynghyd ag eraill” i ddathlu’r unigolyn “anhygoel hwn”.

“Mewn oes pan rydym yn ailystyried ein hanes, ac yn tynnu cerfluniau i lawr, mae Price wir yn ffigwr y gallwn ei osod ar bedestal am amryw o resymau,” meddai.

‘Polymath’

Mae pen-blwydd geni Richard Price wedi ei nodi yn yr Unol Daleithiau hefyd gan Gymdeithas Athronyddol America.

Roedd Richard Price yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn ogystal â Chymdeithas Athronyddol America.

Dywedodd yr Athro Robert M. Hauser ar ran Cymdeithas Athronyddol America fod pen-blwydd Richard Price yn Ionawr 1723 hefyd yn cyd-fynd â dathliad pen-blwydd sylfaenydd y gymdeithas, Benjamin Franklin ym mis Ionawr 1706.

“Er nad yw’n arbennig o hysbys heddiw, roedd Price yn bolymath ac yn ffrind agos i Franklin ac yn gyfrannwr mawr i wyddoniaeth ac at lwyddiant y Chwyldro Americanaidd,” meddai.

Roedd Price yn cydymdeimlo'n fawr â chyflwr y trefedigaethau Americanaidd a darllenwyd ei bamffledi o blaid yr achos Americanaidd yn eang ar ddwy ochr yr Iwerydd.

O ganlyniad, roedd rhai yn Lloegr yn ystyried barn Price ar y Chwyldro Americanaidd yn fradwrus.

Dywedodd Franklin unwaith am ddylanwad ei ffrind agos Price fod yn rhaid i’w “enw fyw cyhyd ag y bo unrhyw wybodaeth am athroniaeth ymhlith dynolryw.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.