Prinder tomatos yn debygol o bara ‘wythnosau’

Mae prinder tomatos sy'n effeithio ar archfarchnadoedd y DU yn debygol o bara wythnosau, meddai manwerthwyr.
Maent hefyd yn rhybuddio y bydd prinder ffrwythau a llysiau eraill.
Cyfuniad o dywydd gwael a phroblemau trafnidiaeth yn Affrica ac Ewrop sy'n rhannol gyfrifol am y silffoedd gweigion yn adran y tomatos a cynnyrch ffres mewn archfarchnadoedd, medd arbenigwyr yn y maes.
Mae cwmni Asda wedi cyflwyno cyfyngiadau ar brynu rhai ffrwythau a llysiau, gan gynnwys tomatos, pupurau, ciwcymbyr, letys, brocoli, blodfresych, bagiau salad a mafon.
Mae lluniau o silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd llefarydd ar ran Asda: “Fel archfarchnadoedd eraill, rydyn ni’n wynebu heriau wrth gyrchu rhai cynhyrchion sy’n cael eu tyfu yn ne Sbaen a gogledd Affrica.
“Rydym wedi cyflwyno cyfyngiad dros dro, o dri o bob cynnyrch ar nifer fach iawn o gynnyrch ffrwythau a llysiau, fel y gall cwsmeriaid brynu'r hyn maent yn chwilio amdanynt.”
Dywedodd Andrew Opie, cyfarwyddwr bwyd a chynaliadwyedd y Consortiwm Manwerthu Prydeinig, sy’n cynrychioli archfarchnadoedd y DU: “Mae amodau tywydd anodd yn ne Ewrop a gogledd Affrica wedi amharu ar gynhaeaf rhai ffrwythau a llysiau gan gynnwys tomatos a phupurau.
“Er bod disgwyl i’r sefyllfa bara am ychydig wythnosau, mae archfarchnadoedd yn brofiadol wrth reoli materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi ac yn gweithio gyda ffermwyr i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar ystod eang o gynnyrch ffres.”