Newyddion S4C

Pêl-droed merched Wrecsam: 'Gallai statws rhannol-broffesiynol fod yn anhygoel i'r gamp'

Pêl-droed merched Wrecsam: 'Gallai statws rhannol-broffesiynol fod yn anhygoel i'r gamp'

NS4C 20/02/2023

Mae chwaraewr tîm pêl-droed menywod Wrecsam yn dweud y gallai statws rhannol-broffesiynnol fod yn “anhygoel” i gamp y merched yn y gogledd. 

Yn gynharach yn y mis, fe gyhoeddodd y clwb y bydd eu tîm menywod yn chwarae’n rhannol broffesiynol y tymor nesaf, os y byddan nhw’n llwyddo i gael dyrchafiad a thrwydded i chwarae ym mhrif adran merched Cymru. 

Roedd datblygu tîm y menywod yn un o addewidion sêr Hollywood, Ryan Reynolds a RobMcElhenney, pan ddaethant yn berchnogion y clwb yn 2021. 

Mae Lili Jones eisoes yn chwarae i’r tîm hŷn.

“‘Den ni’n creu hanes bob dydd yma’n Wrecsam erbyn hyn. Os fyse hynny yn digwydd, fyse hynny’n anhygoel, nid yn unig i’r clwb, ond i ogledd Cymru i gyd rili.”

“Mae merched yn chwarae mwy a mwy. Mae ‘na fwy o dimau merched o gwmpas ar ddydd Sadwrn yn chwarae ar y caeau. A dim yr hogiau ydy o gyd erbyn hyn. Mae’r merched rili yn rhoi eu troed i fewn.”

Mae Wrecsam ar hyn o bryd yn chwarae yn ail haen cyngynghair genedlaethol Adran Genero yn y gogledd.

Mae nhw ar fin rhoi cais am drwydded i chwarae yn yr haen uchaf, ac o gael honno, a’r mater bach o ennill dyrchafiad ar y cae, mi fydd y tîm yn chwarae’n rhannol broffesiynol y tymor nesaf. 

Os bydd hynny’n digwydd, nhw fydd y tîm rhannol broffesiynol cyntaf yn y pyramid merched yng Nghymru. 

Mae Siwan Williams yn chwarae i dîm merched o dan 19 oed Wrecsam ac yn dweud bod y newid yn anhygoel.

“Dwi’n meddwl bod y newyddion yma’n enfawr i blant ifanc yng ngogledd Cymru.”

“Dwi wedi bod yn chwarae i Wrecsam ers blynyddoedd ac mae gwybod bod ‘na siawns cael gyrfa yn y clwb yn anhygoel.”

“Dwi’n caru’r clwb yma efo bob dim ac aros yma pan dwi’n hŷn, breuddwyd yn dod yn wir.”

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.