Ysgrifennydd Cartref yn mynegi ‘pryder’ dros ymdriniaeth yr heddlu o achos Nicola Bulley
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi mynegi pryder dros ymdriniaeth yr heddlu o achos Nicola Bulley.
Mae Heddlu Sir Gaerhirfryn wedi derbyn beirniadaeth chwyrn am ryddhau gwybodaeth am broblemau'r fam i ddau gydag alcohol.
Diflannodd y fam 45 oed ar 27 Ionawr tra'n mynd â'i chi am dro ar lan afon ym mhentref St Michael's on Wyre.
Mae'r heddlu'n credu y gallai'r cynghorydd morgeisi fod wedi syrthio i'r afon - ond nid ydyn nhw wedi dod o hyd i unrhyw olion ohoni.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, ei bod hi wedi mynegi pryderon wrth gwrdd â’r Prif Gwnstabl Chris Rowley ddydd Gwener.
Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak hefyd wedi dweud ei fod yn “pryderu fod gwybodaeth breifat yn y parth gyhoeddus”.
'Camddehongli'
Dywedodd yr heddlu mewn datganiad nos Fercher fod swyddogion a gweithwyr iechyd wedi eu galw i'w chartref fis diwethaf yn dilyn adroddiadau am bryder i les unigolyn, ond ni chafodd neb eu harestio.
Dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn: “Yn anffodus, mae’n amlwg o siarad â Paul a’r teulu fod Nicola wedi dioddef yn y gorffennol gyda rhai problemau sylweddol gydag alcohol a ddaeth yn sgil ei brwydrau parhaus gyda’r menopos a bod yr anawsterau hyn wedi dod i’r wyneb eto dros y misoedd diwethaf."
Esboniodd swyddogion fod y penderfyniad i ryddhau gwybodaeth am Ms Bulley "er mwyn osgoi unrhyw ddyfalu neu gamddehongli pellach.”
Llun: Suella Braverman (Stefan Rousseau / PA) a Nicola Bulley.