
Gobeithion y bydd peiriant newydd yn datrys problemau maes parcio Llangrannog

Mae gobaith y bydd peiriant newydd yn datrys problemau maes parcio Llangrannog.
Mae cwynion cyson wedi bod am y maes parcio ar arfordir Ceredigion sy’n cael ei gynnal gan One Parking Solution Ltd, gyda sylw wedi ymddangos yn y wasg Brydeinig.
Roedd gyrrwyr yn anhapus eu bod nhw wedi wynebu dirywon o £100 ar ôl cael trafferth talu am barcio, ac roedd pwyllgor lles y pentref wedi mynegi pryder fod y maes parcio wedi difrodi enw da y pentref.
Sail y broblem oedd bod angen ffonio’r cwmni i drefnu talu neu dalu dros app pan nad oedd y peiriant talu ac arddangos yn gweithio.
Ond roedd gyrwyr wedi cael trafferth cysylltu â’r we neu chael signal ffôn o fewn y deg munud oedd yn cael ei ganiatau, oherwydd y lleoliad gwledig.
Ond dywedodd Dr Kathryn Dawes, ysgrifennydd y Pwyllgor Lles, ei bod hi’n gobeithio y byddai peiriant newydd yn datrys y broblem.
“Mae maes parcio Llangrannog newydd gael peiriant parcio newydd sy’n derbyn arian a chardiau,” meddai.
“Mae modd defnyddio JustPark er mwyn talu hefyd, ond mae’r wi-fi yn araf.
“Ond mae’r rheol fod angen talu o fewn 10 munud yn parhau yn ei le. Mae yna arwyddion newydd sy’n gwneud yr amodau yn glir.”

Ychwanegodd Kathryn Dawes: “Fe fydd unrhyw un sy’n ceisio difrodi y peiriant newydd ar gamerau cylch cyfyng. Peidiwch ag ymyrryd gyda’r peiriant os gwelwch yn dda – mae’n golygu na fydd unrhyw un arall yn gallu talu.
“Ni’n gobeithio y bydd y peiriant newydd yn datrys y problemau yn y maes marcio dros y blynyddoedd diwethaf.”
Cysylltwyd â One Parking Solution Ltd am ymateb.
Dim cynrychiolydd
Cafodd achos llys yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn dilyn dirwy parcio yn y pentref ei daflu allan y llynedd.
Roedd y cyn-athro a swyddog addysg gyda Llywodraeth Cymru wedi gwrthod talu'r ddirwy am ei bod yn uniaith Saesneg.
Ond cafodd yr achos yn erbyn Tony Schiavone yn Llys Ynadon Aberystwyth ei ddiddymu gan nad oedd cynrychiolydd o One Parking Solution yn bresennol.
Llun: Llangrannog gan Llinos Dafydd