Cipolwg ar brif benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma'ch diweddariad o rai o'r prif straeon ar hafan Newyddion S4C ar ddydd Mawrth, 18 Mai.
Covid-19: 96% o bobl yn datblygu gwrthgyrff wedi un brechiad - The Guardian
Mae astudiaeth newydd yn dangos fod 96% o bobl yng Nghymru a Lloegr yn datblygu gwrthgyrff i'w hamddiffyn rhag Covid-19 wedi un dos o frechlyn Covid-19 yn unig. Mae'r ymchwil gan Brifysgol Coleg Llundain (UCL) yn dangos fod brechlynnau AstraZeneca a Pfizer cystal â'i gilydd am amddiffyn rhag y feirws.
Pêl-droed: Cyngor i beidio teithio i Rufain na Baku - Golwg360
Dylai cefnogwyr pêl-droed Cymru gefnogi'r tîm cenedlaethol o adref wrth iddyn nhw ddechrau ar ei hymgyrch Ewro 2020 fis nesaf, yn ôl Undeb Bêl-droed Cymru. Daw'r rhybudd wedi i'r corff gynnal trafodaethau gyda'r Swyddfa Dramor wrth i deithiau rhyngwladol ail-ddechrau wedi cyfyngiadau'r cyfnod clo.
Ymdrech i godi £2 ar ddringwyr yr Wyddfa yn debygol o fethu - North Wales Live
Mae ymdrech i godi tal o £2 ar ymwelwyr sydd am ddringo'r Wyddfa yn debygol o fethu. Cafodd y syniad ei drafod yn wreiddiol gan Gyngor Gwynedd fis Hydref y llynedd, ond nawr mae prif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud fod y cynllun posib yn "codi nifer o bwyntiau".
Pryderon dros brinder deunyddiau adeiladu
Mae rhai o fewn y diwydiant adeiladu wedi codi pryderon am ddiffyg deunyddiau wrth i gostau a’r angen amdanyn nhw gynyddu. Mae'r Ffederasiwn Masnachwyr ac Adeiladwyr wedi cydnabod fod hyn yn cael effaith sylweddol ar fusnesau annibynnol ac maen nhw'n annog adeiladwyr i archebu deunyddiau o flaen llaw.
Cofiwch ddilyn y straeon diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.