Newyddion S4C

Pryderon dros brinder deunyddiau adeiladu

18/05/2021

Pryderon dros brinder deunyddiau adeiladu

Mae gweithwyr y sector adeiladu wedi lleisio eu pryderon dros brinder deunyddiau. 

Wrth i'r farchnad dai newid, dywed rhai o fewn y diwydiant fod costau a'r angen am ddeunyddiau adeiladau ar gynnydd. 

Yn ôl y Gymdeithas Deunyddiau Adeiladu, y Construction Products Association (CPA), mae disgwyl i allgynnyrch adeiladu gynyddu o 29.3% yn 2021, gan achosi galw mawr am ddeunyddiau megis farnis, pren, dur a chopr. 

O ganlyniad, mae'r contractwr adeiladu Andy Owen o Lanfairpwll, Ynys Môn yn dweud bod gweithwyr y sector yn ei gweld hi'n anodd archebu deunyddiau ar gyfer eu gwaith. 

“Mae coed a plaster pinc a sment [yn brin]," dywedodd Mr Owen wrth Newyddion S4C.

"A ‘da ni ‘di dalld bora ‘ma de, pryd fydd HS2 yn dechra’, fydda nhw isio mwy o sment i neud concrit i tu mewn i’r twneli. Felly, fydd ‘na brinder sment eto. Wedyn, ‘da ni’m yn gwybod be’ sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol ‘efo hynna de.

“Mae gwaith ni ŵan wedi mynd ar ei hôl hi ym mhob man ‘efo pob job sgen y ni. Mae hynna’n knock on i cwsmeriaid eraill hefyd. Wedyn, mae’n mynd yn hwyrach ac yn hwyrach yn trio darfod job a trio cael pres i mewn hefyd ynde."

Mae Ffederasiwn Masnachwyr ac Adeiladwyr (Builders Merchants Federation) sydd yn cynrychioli'r diwydiant, yn cydnabod bod y prinder mewn deunydd yn cael effaith mawr ar fusnesau annibynnol, ac maen nhw wedi rhybuddio adeiladwyr i archebu’r deunydd o flaen llaw.

Image
NS4C

Yn ôl Andy Owen, y cyfnodau clo sydd wedi achosi'r broblem.

“’Efo’r dechrau, oedda ni’n meddwl am fod y Covid wedi bod t’bo oedd pobol methu mynd i ffwrdd ar eu gwyliau, so oedd gen y nhw bres i sbario ac oedda nhw’n decideio trin eu tai," dywedodd. 

“Wedyn, bob stryd ‘da chi’n weld jyst, mae ‘na rhywun yn gwneud gwaith yn rwla. A ‘da ni’n cael lot o enquiries ar y ffôn ŵan i neud bathrooms a gegina aballu. A fydd bob dim ‘efo knock on effect yn fana eto hefyd de.

“Dio’m yn help i ni ond does ‘na’m byd allai neud amdana fo i fod yn onasd de.

"Fydd jyst rhaid i ni gario mlaen fel yda ni ŵan a gweld pryd mae sdwff ar gael. ‘Da ni’n trio ordero sdwff o flaen llaw i gael gweld os ‘da ni’n gallu cael nhw ar amser ‘lly ond dio’m yn digwydd bob tro de a mae prisia’ mond yn cael eu cadw am ryw ddau – dri diwrnod, o le ‘da ni’n cael sdwff ni ŵan."

Dywedodd John Newcomb, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn Masnachwyr ac Adeiladwyr: “Mae hon yn sefyllfa sy’n cael ei arwain gan alw mawr ac mae’r diwydiant wedi ymateb i’r galw digynsail.

“Nid yn unig yw hyn yn broblem yng Nghymru, ond hefyd ledled y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd. Mae llawer o sectorau yn nodi cynnydd yn y galw am eu cynhyrchion.

“Rydym yn annog adeiladwyr i gynllunio o flaen llaw, archebu cyn gynted â phosib, ac ystyried opsiynau eraill lle bo hynny’n bosib.

“I gwsmeriaid, rydym yn awgrymu eu bod yn cydweithio gyda’u hadeiladwyr, i feddwl yn hyblyg ac ystyried opsiynau eraill.

“Mae BMF yn gweithio ar draws y diwydiant i helpu rheoli’r sefyllfa.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.