Newyddion S4C

Covid-19: 96% o bobl yn datblygu gwrthgyrff wedi un brechiad

The Guardian 18/05/2021
Brechlyn i amddiffyn rhag Covid-19.

Mae dros 90% o bobl yn datblygu gwrthgyrff i'w hamddiffyn rhag Covid-19 wedi un dos o frechlynnau Pfizer neu AstraZeneca, a bron i 100% o bobl yn datblygu gwrthgyrff yn dilyn dau ddos.

Mae astudiaeth newydd o 8,517 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn dangos fod y ddau frechlyn yn effeithiol iawn i amddiffyn rhag y feirws.

Dangosodd yr ymchwil fod 96.42% o bobl wedi datblygu gwrthgyrff rhwng 28 a 34 diwrnod wedi'r dos cyntaf a 99.08% wedi eu datblygu rhwng saith a 14 diwrnod wedi'r ail bigiad, yn ôl The Guardian.

Daeth ymchwilwyr Prifysgol Coleg Llundain (UCL) i'r casgliad fod y ddau frechlyn cystal â'i gilydd am gynhyrchu'r gwrthgyrff sydd eu hangen.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.