Ymdrech i godi £2 ar ddringwyr yr Wyddfa yn debygol o fethu
18/05/2021
Mae cynlluniau i godi £2 ar ymwelwyr â'r Wyddfa yn debygol o fethu.
Mewn cyfarfod fis Rhagfyr y llynedd, fe gefnogodd Gyngor Gwynedd alwadau am gynllun tebyg ymhlith pryderon fod y sir yn dioddef o "or-dwristiaeth", yn ôl North Wales Live.
Y Cynghorydd Glyn Daniels o Lais Gwynedd a gyflwynodd y cynlluniau'n wreiddiol fel rhan o bryderon nad oedd yr ardal yn elwa fel y dylai o asedau naturiol.
Mewn ymateb, mae Prif Weithredwr y Parc Cenedlaethol, Emyr Williams, wedi dweud y byddai "ceisio gosod tollau yn codi nifer o bwyntiau".
Darllenwch y stori'n llawn yma.