Newyddion S4C

cyclone Gabrielle

Disgwyl mwy o farwolaethau wedi seiclon yn Seland Newydd

NS4C 17/02/2023

Mae'r awdurdodau yn Seland Newydd yn dweud eu bod nhw'n disgwyl mwy o farwolaethau wedi i seiclon ladd wyth o bobl.

Seiclon Gabrielle ydy'r storm fwyaf trychinebus i daro'r wlad ers degawdau. Mae o leiaf wyth person wedi marw yn barod ac mae cymunedau wedi dioddef llifogydd ac wedi eu gadael heb drydan yn dilyn y storm ddydd Iau.

Dywedodd Prif Weinidog newydd Seland Newydd, Chris Hipkins, bod "y wlad gyfan" yn tristáu dros y cymunedau sydd wedi eu heffeithio.

"Mae 'na bobl sydd mewn sefyllfa fregus iawn," meddai.

"Dwi'n erfyn ar bobl i ddal ati, ac fe ddawn ni drwy hyn. Fe fyddwn ni'n dod drwyddi. Ond mae'n sefyllfa heriol ofnadwy ar hyn o bryd."

Mae stormydd wedi diffodd trydan mewn trefi cyfan ac mae ffermydd, pontydd a thai wedi eu dinistrio. 

Cafodd 10,000 o bobl eu disodli o'u cartrefi, ac mae'r awdurdodau yn cael trafferth cysylltu efo 3,500.

Creu marwdai

Mae marwdai wedi eu creu yn ardaloedd Napier a Hastings, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

"Mae'r cyfleusterau wedi eu creu fel rhagofal i sicrhau fod unrhyw farwolaethau yn gallu cael eu trin gyda gofal a pharch," medden nhw. "Maen nhw'n cael eu cadw yma cyn cael eu symud i gorffdy."

Llun: Wochit

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.