Cyngor Sir Gâr yn prynu darlun gwerthfawr o'r bardd Dylan Thomas

Cyngor Sir Gâr yn prynu darlun gwerthfawr o'r bardd Dylan Thomas
Mae Cyngor Sir Gâr wedi llwyddo i brynu'r darlun olaf a baentiwyd o'r bardd Dylan Thomas.
Cafodd y darlun ei baentio ychydig cyn ei farwolaeth gan yr arlunydd Gordan Stuart ym mis Medi 1953.
Derbyniodd y cyngor gefnogaeth ariannol gan gronfa gelf a chronfa'r V&A i'w brynu.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths: “Dim ond dwywaith mae 'di cael ei arddangos o'r blaen yn ôl beth wi'n ddeall sef yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais yn 1954 ac yn 5 Cwmdonkin Drive yn Abertawe le oedd cartref Dylan yn ei blentyndod.
"Felly i ni’n gyffrous iawn ac i ni’n edrych ymlaen yn fawr felly i’r cyhoedd ac ymwelwyr a phawb gael y cyfle i weld y portread olaf mewn ffordd o Dylan Thomas.”
Bydd y darlun yn cael ei arddangos yn amgueddfa Caerfyrddin ym mis Medi.