Dwyn carafannau: Cyhuddo dyn o ladrata
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi cael ei gyhuddo o ddwyn carafannau ar ôl digwyddiad yng Nghaernarfon ddydd Gwener.
Mae Sid Wain, 39 o Coventry, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o yrru heb drwydded ac yswiriant.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon ddydd Llun.
Cafodd tri cherbyd yn cludo tair carafán eu hatal yng Nghaernarfon yn gynnar fore dydd Gwener.
Dywedodd yr heddlu fod un dyn wedi ei arestio yn y digwyddiad, tra bod dau arall wedi ffoi mewn cerbyd gwahanol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydym yn dal i apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A499 neu'r A487 rhwng hanner nos a 7.00 fore dydd Gwener, sydd â lluniau dashcam, gysylltu â ni ar 101 neu drwy sgwrs fyw gan ddyfynnu cyfeirnod 21000308803"