Newyddion S4C

'Spin off digidol Rownd a Rownd yn gyfle i fynd nôl i wreiddiau'r rhaglen’

'Spin off digidol Rownd a Rownd yn gyfle i fynd nôl i wreiddiau'r rhaglen’

Mae cyfres ddigidol Copsan yn gyfle i fynd “nôl i wreiddiau” y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd yn ôl un cymeriad blaenllaw.

Bydd gwylwyr S4C yn adnabod Gwion Tegid fel y dihiryn hoffus, Barry Hardy, ond ef hefyd yw cyfarwyddwr y gyfres Copsan.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Gwion: “Y gwahaniaeth rhwng Copsan a Rownd a Rownd ydy bod o yn rhan o’r un bydysawd felly ma’ yna references gwahanol i Rownd a Rownd ond mae o yn gast gwbl newydd.

“Dwi meddwl bod Rownd a Rownd wedi newid lot. Mae lot wedi bod yn gwylio'r cyfresi cynnar ar Clic yn ddiweddar pan oedden nhw yn benodau byr oedd yn canolbwyntio ar y rownd bapur a phobl yn eu harddegau.

“Erbyn hyn wrth gwrs, mae Rownd a Rownd wedi datblygu ac mae o yn apelio i gynulleidfa fwy eang. Ella bo’ ni wedi colli ychydig bach ar huna.

“Felly ma’ Copsan yn gyfle i fynd yn ôl,  ‘back to the roots’ bron o be oedd Rownd a Rownd a jyst canolbwyntio ar yr arddegau.”

Themâu pwysig

Ar hyn o bryd mae Gwion a’r cast yn ffilmio ail gyfres Copsan sy’n cael ei darlledu ar You Tube.

Mae’n gyfres sy’n canolbwyntio ar themâu pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc mewn cymdeithas heddiw.

“Mae’r straeon da ni’n defnyddio yn rhai sydd yn effeithio rhai sydd yn eu harddegau yn fwy na dim," meddai. 

“Mae ‘na dipyn am wefannau cymdeithasol, sut ma’ nhw yn cael eu trin neu gamddefnyddio. Ac wedyn ma’ rhywioldeb hefyd yn dod mewn a sôn am rhai yn dod allan a be ydy ei pronouns nhw a phethau sy’n bwysig iddyn nhw ar hyn o bryd.”

Mae Copsan hefyd yn gyfle i fentora sgriptwyr ac actorion ifanc.

“Dwi wedi bod yn ffodus iawn o Rownd a Rownd dros y blynyddoedd, achos pam ti’n actio dim jyst dyna ti’n neud, ti’n gweld y broses a dysgu’r broses,” ychwanegodd Gwion.

“Ti’n gwylio’r criw, ti’n dysgu lot am oleuo ac amserlennu. Dwi wedi cael cyfle gan Rondo, dwi di bod yn rhan o’r tîm storio, y tîm sgriptio a rŵan cyfarwyddo.

“Ma’n grêt- dwi di cael neud hyn i gyd o fewn ardal fy hun yng ngogledd Cymru. Sy’n profi gwerth cael rwbath fel Rownd a Rownd yn yr ardal.”

'Anhygoel'

Un arall sydd yn manteisio ar y cyfle yw’r actor ifanc Osian Davies.

Image
newyddion
Mae Osian Davies yn chwarae'r cymeriad Tom yn ail gyfres Copsan 

“Dwi’n teimlo mor lwcus am y cyfle i actio yn Copsan, achos dydi cyfleodd fel hyn ddim yn dod lan yn aml. Lot o’r amser maen nhw’n cael pobl sydd yn fel 30 i chwarae cymeriadau sydd yn eu harddegau.

“Mae’r cast yn ifanc, mae lot o egni yma ac mae’r cyfleodd ni’n cael o hwn yn anhygoel a chael dysgu sut brofiad ydy bod ar set. Mae yn swydd ond un o’r swyddi gore.

“Mae’r bobl sydd yn gwylio hwn yn mynd i allu uniaethu gyda’r storiâu ac mae rhaid i ni adrodd storiâu pawb a dyna dwi’n meddwl sy’n dda am Copsan.”

Bydd ail gyfres Copsan yn cael ei darlledu ar-lein yn y gwanwyn, ac mae disgwyl bod ‘spin off’ arall gydag ambell wyneb cyfarwydd yn bosib hefyd.

Dywedodd Gwion: “Mae’n flwyddyn rŵan ers i Barry adael y gyfres linol a dwi’n cofio deud wrth bobl ‘dwi ddim yn meddwl mai dyna’r tro olaf iddyn nhw weld Barry a dani’n agos iawn ati wan.

“Ella fyddech chi ddim yn gweld fi yn y gyfres linol ond fydd ‘na gyfle i weld fi ar rwbath arall sydd yn rhan o’r bydysawd Rownd a Rownd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.