Newyddion S4C

Tafarndai i agor yn hwyrach os yw Cymru’n cyrraedd rownd gynderfynol Euro 25

Jess Fishlock

Fe fydd tafarndai yng Nghymru a Lloegr yn cael aros ar agor yn hwyrach os fydd y naill dîm neu’r llall yn cyrraedd rowndiau cynderfynol cystadleuaeth UEFA Euro 25 yn y Swistir.

Fe fydd tafarndai yn cael gwerthu alcohol tan 01:00, os bydd Cymru neu Loegr – neu’r ddau dîm – yn cymryd rhan yn rowndiau cynderfynol neu rownd derfynol Euro 25 sydd yn cychwyn y mis nesaf.

Dywedodd y gweinidog plismona, y Fonesig Diana Johnson, y gallai lleoliadau “elwa” o’r amser cau hwyrach dros dro, wedi’i ymestyn o’r terfyn amser arferol o 23:00.

Ond os nad yw’r naill dîm na’r llall yn llwyddo i gyrraedd y camau terfynol, bydd yn rhaid i dafarndai lynu wrth eu hamodau trwydded arferol.

Cynhelir y rownd gyn-derfynol ar 22 Gorffennaf gyda’r rownd derfynol ar 27 Gorffennaf.

Dywedodd y Fonesig Diana fod pencampwriaeth eleni yn y Swistir, sy’n cychwyn ar 2 Gorffennaf, yn “dwrnamaint mawreddog”.

Mae AS Llafur Wrecsam, Andrew Ranger, wedi galw am newid yn y gyfraith, fel y gall gweinidogion ymestyn oriau trwyddedu heb yr angen am bleidlais yn y Senedd.

Dywedodd y Fonesig Diana fod y Llywodraeth wedi cefnogi ei Fil Estyn Oriau Trwyddedu, ond ychwanegodd na fyddai'n pasio Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi mewn pryd ar gyfer Euro 25.

Fe fydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn Lucerne yn erbyn yr Iseldiroedd ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf  gyda'r gic gyntaf am 17:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.