Newyddion S4C

Symud gydag oedran: ‘Dawnsio yn ein cadw’n fyw’

ITV Cymru

Symud gydag oedran: ‘Dawnsio yn ein cadw’n fyw’

Mae grŵp dawns yng ngogledd Cymru’n dweud bod symud yn eu "cadw fyw" wrth fynd yn hŷn. 

Mae Cai Tomos yn artist dawns annibynnol sy’n byw yng Nghanolbarth Cymru, ac yn gweithio ar draws Cymru ac yn Lloegr. 

Yn wythnosol, mae Cai yn arwain grŵp dawns a symud yng Nghaernarfon o’r enw, Cain. 

Mae’r sesiynau yn croesawu pobl dros 60 oed o bob cefndir a gallu i gyd-symud.

Dywedodd Cai wrth rhaglen gelfyddydol ITV Cymru Wales, Backstage: “Mae pob sesiwn yn ffocysu ar sut ydyn ni’n dod mewn i gysylltiad efo’n hunan, yn gyntaf yn y corff, ac wedyn sut ydyn ni’n cysylltu efo’n gilydd. 

“Rhan bwysig o’r gwaith ydy addysg o’u cyrff eu hunain. Dy’n ni ddim yn rhoi camau sy’n dweud mae hyn yn iawn, dydy hyn ddim yn iawn,” meddai.

“Ry’n ni’n gweithio efo rhywbeth llawer mwy greddfol. Rhywbeth tebyg oeddem ni’n ei wneud pan oeddem ni’n blant.

“Mewn gwirionedd, eu cyrff eu hunain yw’r athro, ac yn raddol dros y blynyddoedd, maen nhw’n dysgu mwy am sut brofiad ydyw i gael corff sy’n newid, corff sy’n heneiddio - ac mae hynny’n wir i ni gyd, felly dwi’n dysgu llawer ganddyn nhw ar hyd y daith.” 

Image
Cai

Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i’r mynychwyr fynd i’r afael â’r heriau sy’n eu hwynebu wrth fynd yn hŷn, boed hynny’n rhai corfforol neu feddyliol. 

Roedd unigedd wedi effeithio ar rai aelodau yn y gorffennol, ac mae’r sesiynau wedi bod yn gyfrwng iddyn nhw ddianc rhag hynny.

“Beth sy’n arbennig am y grŵp ydy ei fod o’n deulu,” meddai Cai. 

“Teulu reit od, cymysgedd o wahanol bobl, ond ry’n bod ni’n cwrdd efo symud a dawns, a chysylltiad a chyffyrddiad fel craidd y ffordd ry’n ni’n cyfathrebu efo’n gilydd.

“Dwi’n meddwl bod hynny ynddo’i hun yn rhywbeth pwerus iawn.”

Mae Cai wedi gweithio o fewn maes iechyd a’r celfyddydau ers blynyddoedd. Er nad yw Cain yn therapi swyddogol, mae’n teimlo bod yr aelodau’n teimlo’n well wedi iddyn nhw adael.

“Dwi’n gweld hi bob tro ar ddiwedd sesiwn, mae yna ryw stâd gwahanol, meddyliol, corfforol, emosiynol ynom ni pan ry’n ni’n gadael. 

“Pan ry’n ni’n cysylltu efo’r corff a’r dychymyg efo’n hunain ac efo pobl eraill, mae yna rywbeth ynom ni sy’n newid.”

Mae Cain yn cwrdd ar ddydd Gwener yn Ngaleri, Caernarfon, ac mae wedi bodoli ers tua 15 mlynedd. 

Image
Wendy
Wendy Ostler

Un o’r rheiny sydd wedi bod yn mynychu ers y dechrau yw Wendy Ostler: “Dwi’n rili mwynhau gwneud pethau crazy gyda grŵp o ferched hŷn. Dwi’n meddwl, mewn cymdeithas, ry’n ni’n tueddu i fynd yn anweledig.

“Mae un o’n haelodau ni wastad yn dweud, ‘dawns oedd yr iaith gyntaf, yr iaith gyntefig cyn bod yna eiriau’, ac mae hynny wedi aros gyda fi.

“Mae’n rhyw fath o angor. Os dwi’n ffeindio fy hunan yn mynd yn rhwystredig gyda phethau dydw i ddim yn gallu gwneud bellach, mae yna wastad dydd Gwener, a dod ‘nôl a theimlo beth dwi’n medru’i wneud efo’r grŵp yma.” 

Image
Buddug
Buddug Jones

Yn ôl aelod ffyddlon arall, Buddug Jones, mae Cain "yn donig" iddi bob wythnos.

Mae Buddug yn byw gyda nam golwg, o’r enw retinitis pigmentosa. 

“Dydw i ddim yn gallu gweld yn dda iawn, ond gyda’r dawnsio, dwi’n gwybod lle rydw i ar lawr y ddawns.

“Rwyt ti’n gwrando ar dy gorff ac rwyt ti’n gallu teimlo’r egni yn yr ystafell, felly rwyt ti’n gwybod pan fod rhywun y tu ôl i ti, a dydw i ddim yn aml iawn yn taro ar rywun.”

Dywedodd, dan chwerthin: “Maen nhw’n taro arna’i weithiau os y’n nhw’n gorfod dawnsio â’u llygaid ar gau.

“Mae’n fy nghadw i’n fyw ac wrth fy modd yn dawnsio.”

Image
Cain

Y tu hwnt i’r sesiynau, mae Cai yn teimlo bod symud a dawns wedi bod yn gaffaeliad pennaf iddo yn ystod ei fywyd ei hun. 

“Mae wedi fy nghefnogi yn ystod anawsterau iechyd, newid, a dwi wastad yn dychwelyd i’r posibiliadau sydd o fewn symud a’r dychymyg.  

“Rhan bwysig o le dwi’n cael ystyr o ‘mywyd ydy symud. Pan dwi’n symud, dwi’n gwybod mwy am bwy ydw i nag ydw i pan dydw i ddim yn symud." 

Trwy gydol y profiadau helaeth mae Cai wedi’u cael yn ystod ei yfra, mae o wedi gweld “pa mor effeithiol ydy hi i ddod â phobl efo’i gilydd yn eu cyrff efo’r bwriad o symud a chysylltu efo’i gilydd, ac os oedd yna fwy o hynny yn y byd, dwi’n siŵr bysa fo’n help inni gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.