Newyddion S4C

Albwm newydd Ciwb yn tynnu sylw at ‘gyfoeth’ cerddoriaeth Gymraeg

Ciwb

Mae albwm newydd Ciwb yn “tynnu sylw at y cyfoeth sydd gynnon ni” mewn cerddoriaeth Gymraeg yn ôl aelod o’r grŵp.

Mae albwm diweddaraf y grŵp yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener dan yr enw ‘Gad Mi Ddod Mewn’.

Casgliad o 10 o fersiynau newydd o hen drysorau yw’r albwm, gydag artistiaid o’r sîn bresennol yn eu canu.

Mae aelodau’r band yn cynnwys Elis Derbyshire, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams.

Rhai o’r caneuon sydd wedi eu hail-wampio gan y grŵp yw ‘Pan fo cyrff yn Cwrdd’ gan y Trwynau Coch, 'Ar Goll' gan Y Cyrff, a 'Dawns y Dail' gan Llwybr Cyhoeddus.

“Dwi’n meddwl bod canu covers o hen ganeuon Cymraeg yn helpu i dynnu sylw at y cyfoeth sydd gynnon ni,” meddai Marged Gwenllian, basydd Ciwb, wrth Newyddion S4C.

“Os ydi rhywun yn meddwl am artistiaid y 70au a’r 80au, maen nhw’n dueddol o feddwl am y rhai amlwg fel Edward H, Jarman a Heather Jones.

“Ond ella bo ti’n anghofio bod genti fandiau sydd wedi cael eu anghofio, neu sydd ddim ar flaen tafod pobl ifanc, fel Angylion Stanli, Llwybr Cyhoeddus, a Sidan er enghraifft”.

Image
Marged
Marged Gwenllian, basydd Ciwb. Llun: Daf Nant

Dywedodd Marged fod y grŵp wedi dod at ei gilydd “ar ddamwain” yng nghanol y Cyfnod Clo.

“Roedd Elis, Geth a fi yn g’neud fideos cerddorol o’n hunain ar Accappella i roi ar Twitter jysd am hwyl” meddai.

Dechreuodd y tri, ynghyd â’r drymiwr Carwyn Williams, gyd-weithio ar fideos o alawon thema rhaglenni adnabyddus, fel Tipyn o Stad a Hotel Eddie, cyn mynd ymlaen i ysgrifennu’r gerddoriaeth i Her 24 Awr Aled Hughes, ar gyfer Plant Mewn Angen.

Yn ôl Marged, fe gafon nhw “lot fawr iawn o ymateb” i’w cân ‘go iawn’ gyntaf ar-lein, Smo Fi Ishe Mynd, gyda’r gantores Malan yn canu arni.

Cyn iddyn nhw droi rownd, roedd hi’n drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru, a hwythau heb enw i’r grŵp hyd yn oed.

Tua 08:30 cyn iddi gael ei chwarae fel Trac yr Wythnos am y tro cyntaf, rhoddwyd yr enw Ciwb i’r grŵp, yn symbol o’r pedwar aelod mewn bocs ar Zoom wrth iddyn nhw drafod.

Image
Ciwb
Y gân olaf ar yr albwm fydd Rosi gan Edward H. Llun: Dafydd Hughes

“Mae ‘na lot o feddwl yn mynd mewn i ddewis y caneuon,” meddai Marged.

“Roedd dewis y deg wedi bod yn rili rili anodd tro ‘ma, ond ‘da ni’n hapus iawn efo be sydd gynnon ni erbyn hyn.”

Eglurodd bod rhyw fath o restr wirio ar gyfer pob cân, rhyw “check-list” meddai.

Y nod oedd "ffeindio cân sy’n briliant, ond ella bod pobl wedi anghofio amdanyn nhw, fel bo ni wedyn yn gallu dod â hi i olau dydd".

Dywedodd fod ganddi “hanner cof” am bob un.

“Er enghraifft efo Dawns y Dail gan Llwybrau Cyhoeddus, roedd hi’n canu cloch, ond do’n i ddim yn ei ‘nabod hi’n dda,” meddai.

“Dyna ‘di’r prif beth ‘da ni’n chwilio amdano fo efo’r caneuon.”

Doedd dim thema mewn golwg pan oedd y grŵp yn chwilio am ganeuon i’w rhoi eu sbin eu hunain arnyn nhw.

“Roedd hi’n fater o rywun yn cynnig cân, a wedyn, un, os oedden ni’n licio hi, dau, os ‘da ni’n gallu gweld hi’n siwtio’n sŵn ni, a tri, os ‘da ni’n gallu meddwl am rywun fysa’n siwtio i ganu hi.

“Weithiau mae ‘na ganeuon briliant ond sydd jysd ddim yn gweithio, un ai achos bo ni methu gweld sut fedra ni’i newid hi neu bod y cynnwys ddim yn addas.”

Image
Eban Elwy
"Roedd Eban Elwy yn briliant yn y stiwdio, mae ei egni fo'n dod allan ar y trac". Llun: Daf Nant

Dywedodd Marged eu bod yn gobeithio creu rhestr chwara o’r caneuon gwreiddiol ar eu tudalen Spotify er mwyn “annog pobl i fynd yno i wrando ar y caneuon gwreiddiol, a gwrando ar weddill eu catalog”.

“Mae’n ffordd o ddweud ‘Hei, yda chi’n cofio rhain?’”

Yn ôl Marged, mae pobl o bob oed yn mwynhau’r gerddoriaeth.

“Dwi’n gwbod am bobl sydd yn eu 50au a’u 60au sy’n gwrando (ar ganeuon Ciwb) achos bod y caneuon yn tynnu nhw’n nôl i’w cyfnod nhw," meddai.

“Ond mae pobl ifanc yn licio dod i’n gigs ni achos bo nhw’n ganeuon newydd iddyn nhw.”

Ychwanegodd ei bod yn “gobeithio eu bod nhw am wrando’n ôl a sbio pa mor lwcus oeddan ni, a sylwi faint o gerddoriaeth dda eraill oedd o gwmpas adeg yna”.

Image
Ciwb
Mae naw o westai gwadd ar yr albwm, a Ciwb eu hunain fydd yn canu'r gân olaf. Llun: Daf Nant

‘Anhygoel’

Bydd Ciwb yn curadu gig fel rhan o Gŵyl Arall yng Nghaernarfon, ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf fel lansiad i’w halbwm.

“Dani’n ofnadwy o lwcus bo ni ‘di gallu neud hyn,” meddai Marged.

“Er fy mod i wrth fy modd efo’r grŵp, dwi’n meddwl mai ni ydi’r band lleia’ ymarferol erioed… os ‘da ni’n cael cynnig gig, ‘da ni angen gwneud yn siŵr fod ‘na lwythi o bobl ar gael hefyd!”

Mae cael y cyfle i gyflwyno’r albwm am y tro cyntaf yng Ngŵyl Arall yn werthfawr iawn i Ciwb.

“Mae cael y cyfle i wneud gig lle mae naw artist gwadd ar gael, yn lleol yng Nghaernarfon, yn anhygoel," meddai.

“’Da ni’n ddiolchgar i bawb am gael gwneud hon."

Ychwanegodd Marged ei bod hi a’r band yn “diolch yn fawr iawn i’r artistiaid a ‘sgwennodd y caneuon gwreiddiol ac i bawb sydd wedi ein helpu i ddod a’r albwm at ei gilydd ym mhob ffordd.”

Llun: Dafydd Hughes

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.