
Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer UEFA Euro 25 o gopa'r Wyddfa
Mae rheolwr tîm pêl-droed menywod Cymru Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi carfan o 23 o chwaraewyr ar gyfer pencampwriaeth UEFA Euro 2025 yn y Swistir.
Fe wnaeth Wilkinson y cyhoeddiad fore dydd Iau ar gopa’r Wyddfa.
Angharad James fydd y capten ac mae’n un o bedwar o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru dros gant o weithiau, ynghyd â Jess Fishlock, chwaraewr mwyaf profiadol Cymru, Hayley Ladd, a Sophie Ingle. Mae cyn-chwaraewr Chelsea, Ingle, yn ôl yn y garfan ar ôl gwella o anaf ACL.
Bydd Cymru’n wynebu enillwyr y ddwy bencampwriaeth Euro ddiwethaf sef Lloegr (2022) a’r Iseldiroedd (2017), yn ogystal â̂ Ffrainc, a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn 2017.
Bydd y ddau dîm sydd yn gorffen yr uchaf yn y grŵp yn symud ymlaen i’r rownd wyth olaf.
Bydd tîm Wilkinson yn dechrau’r bencampwriaeth yn Lucerne yn erbyn yr Iseldiroedd ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf (17:00) cyn teithio i St. Gallen i wynebu Ffrainc (20:00) ddydd Mercher 9 Gorffennaf a Lloegr (20:00) ddydd Sul 13 Gorffennaf.

Mae disgwyl i dros 2,000 o gefnogwyr Cymru yn y Wal Goch ar gyfer pob gêm.
Bydd Cymru’n teithio o Gaerdydd ar ddydd Sul 22 Mehefin ar gyfer gwersyll ymarfer ym Mhortiwgal am wythnos i baratoi ar gyfer yr Euros.
Byddant wedyn yn cyrraedd y Swistir ar ddydd Sul 29 Mehefin, lle bydd y tîm yn lleoli ei hun yn Lipperswil ac Weinfelden yng nghantwn Thurgau.
Cymru: Olivia Clark (Caerlŷr), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Poppy Soper (Dim Clwb), Charlie Estcourt (DC Power), Gemma Evans (Lerpwl), Josie Green (Crystal Palace), Hayley Ladd (Everton), Esther Morgan (Sheffield United), Ella Powell (Bristol City), Rhiannon Roberts (Dim Clwb), Lily Woodham (Seattle Reign), Jess Fishlock (Seattle Reign), Alice Griffiths (Dim Clwb), Ceri Holland (Lerpwl), Sophie Ingle (Dim Clwb), Angharad James (Seattle Reign - Capten), Lois Joel (Newcastle United), Rachel Rowe (Southampton), Kayleigh Barton (Dim Clwb), Hannah Cain (Caerlŷr), Elise Hughes (Crystal Palace), Carrie Jones (IFK Norrköping), Ffion Morgan (Bristol City).