Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol dros 700 o swyddi yn ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn

25/01/2023

Pryder am ddyfodol dros 700 o swyddi yn ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn

Mae pryder am ddyfodol cannoedd o swyddi ar Ynys Môn wrth i gwmni 2 Sisters gyhoeddi eu bod yn cynnal ymgynghoriad ar gau eu ffatri yn Llangefni.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y cwmni fod adolygiad o’r safle wedi dangos nad oedd y ffatri’n gynaliadwy.

“Mae’n hen, yn un o’n safleoedd lleiaf a heb ofod i fod yn effeithiol. Mae’r gost o gynhyrchu yn uwch ac fe fyddai’n golygu buddsoddiad sylweddol i’w chodi i safon ein ffatrïoedd eraill. Fe all ein cynnyrch gael eu gwneud yn fwy effeithiol mewn mannau eraill ar draws ein safleoedd.

“Felly ein hargymhelliad yw i ddod a chynhyrchu yn y ffatri i ben, gan roi’r safle mewn perygl o gau. Yn amlwg fe fydd hyn yn newyddion hynod o siomedig i’n cydweithwyr yn Llangefni, ac nid yw’n adlewyrchiad ar eu gwaith caled a’u hymrwymiad parhaus.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething fod cau y ffatri yn "debygol" a'u bod nhw am gynnig "cymaint o gefnogaeth a phosib".

'Ymgynghoriad ystyrlon'

Ychwanegodd y datganiad fod gan y cwmni ddyletswydd i barhau’n gystadleuol ac i ddiogelu eu busnes ehangach. Dywedodd y cwmni mai’r flaenoriaeth nawr oedd cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda’r gweithwyr sydd yn cael eu heffeithio er mwyn edrych ar ystod eang o ddewisiadau cyn do di benderfyniad terfynol am gau’r safle.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol fore dydd Mercher, dywedodd aelod Senedd Cymru dros yr ynys, Rhun ap Iorwerth, ei fod wedi cyfarfod gyda'r cwmni yn ystod y bore a'i fod wedi cyflwyno cwestiwn brys i gael ei drafod yn y Senedd yn ddiweddarach ar ddyfodol gweithlu'r ffatri.

"Bydd angen gweithredu dwys a brys gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i hyn. Bydd angen gweld oes posib newid meddyliau'r cwmni yn y lle cyntaf, wrth gwrs, ac i arbed swyddi - neu gymaint ohonyn nhw a phosib - ond yn dilyn y sgwrs heddiw fyddwn i ddim am godi gobeithion pobl.

"Mi frwydraf am gymaint o help a sydd bosib i'r gweithwyr, yn gweithio efo Llywodraeth Cymry a Chyngor Môn."

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd Aelod Senedd San Steffan dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, fod y penderfyniad yn "newyddion brawychus" i'r ynys. 

"Dwi wedi siarad gyda'r cwmni bore ma, ac mae'n ymddangos ei fod wedi'i effeithio'n wael gan nifer o broblemau, gyda'r cynnydd mewn costau ynni ym mis Ebrill yn un o'r prif resymau dros ystyried cau'r safle ac amddiffyn adrannau eraill y busnes," meddai. 

"Fe fyddai yn siarad gyda'r undebau yn fuan a byddaf yn cefnogi sefydlu grŵp gweithredol er mwyn helpu gyda'r hyn sydd yn digwydd a beth all digwydd os ydy'r ffatri yn cau.

"Yn y cyfamser, byddaf yn gwneud popeth y gallaf i weithio gyda'r cwmni, yr undebau a'r cyngor tra bod y broses yma yn mynd yn ei blaen." 

Fe wnaeth Ms Crosbie hefyd godi'r penderfyniad yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog yn San Steffan ddydd Mercher. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Rishi Sunak, ei fod yn cydymdeimlo gyda'r teuluoedd sydd wedi'u heffeithio. 

"Dwi'n falch i ddweud fod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau trefniadau mewn lle er mwyn cefnogi cymunedau pan mae sefyllfaoedd fel hyn yn codi.

"Fe fyddwn yn gweithio'n agos iawn gyda hi [Virginia Crosbie] i wneud beth rydym yn ei wneud ar draws y wlad, sef i gynnig swyddi da i bawb oherwydd dyna yw'r ffordd orau i adeiladu bywyd hapus a sefydlog."

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Peter Hughes, Swyddog Rhanbarthol Unite Cymru: "Byddai cau 2 Sisters yn ergyd catastroffig i economi a chymunedau lleol Ynys Môn a Gogledd Cymru.

"Mae'r cwmni wedi cyhoeddi'r ergyd hon ar eu gweithlu heb drafodaeth na rhybudd o gwbl. Mae ein haelodau yn gandryll gyda'r ffordd maen nhw wedi cael eu trin. 

"Bydd Unite yn ymladd i wrthdroi'r sefyllfa. Mae trafodaethau brys wedi cael eu trefnu ar gyfer ddydd Iau ac mae gan 2 Sisters gwestiynau mawr i'w hateb. Bydd pob datrysiad i wrthdroi'r sefyllfa yn cael eu harchwilio gan yr undeb. 

"Rydym yn bwriadu gorfodi'r cwmni i ailystyried a byddwn yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r ymgyrch i achub y safle."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.