'Cyffro' wrth i Theatrau Sir Gâr baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf
'Cyffro' wrth i Theatrau Sir Gâr baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf
Mae yna "gyffro" yn Sir Gaerfyrddin wrth i Theatrau Sir Gâr baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad mewnol cyntaf erioed.
Fe fydd 'Golygfeydd o'r Pla Du,' sydd yn gomedi du yn dilyn pandemig y pla du yn ystod y 14eg ganrif, yn teithio o gwmpas Cymru yn ystod y gwanwyn eleni.
Mae'r cynhyrchiad yn cyd-fynd gyda'r dathliadau dengmlwyddiant Theatr y Ffwrnes yn Llanelli, lle bydd y sioe yn dechrau ar ei thaith i leoliadau ledled Cymru.
Dyma fydd y tro gyntaf i Theatrau Sir Gâr gynhyrchu sioe yn fewnol, gan weithio ar y cyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae clyweliadau eisoes yn cael eu cynnal ar gyfer cast o bedwar a fydd yn chwarae dros 40 o gymeriadau.
Mae disgwyl y bydd y cast llawn yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau mis Chwefror.
Dywedodd cyfarwyddwyr y sioe, Chris Harris, ei fod yn "llawn cyffro" i fod yn rhan o gynhyrchiad gyntaf Theatrau Sir Gâr.
"Da ni'n lwcus iawn i ddweud bod hyn yn fatha stamp Theatrau Sir Gâr am y tro gyntaf," meddai.
"A pha ffordd orau i neud hynny na drwy gomedi ynglŷn â'r pla du!"
Ychwanegodd Mr Harris bod gweithio gyda Theatrau Sir Gâr wedi bod yn brofiad calonogol, gan gysylltu gyda chynulleidfa ehangach ar lawr gwlad Cymru.
"Be sy'n neis am gwmnïau fel Theatrau Sir Gâr, oherwydd maen nhw ar y ffiniau o ddinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe, mae 'na siwt gymaint o gyfleoedd i greu gwaith gyda nhw.
"So mae'n ffantastig i gael creu gwaith gyda chwmni sydd yn awyddus iawn, ac yn ffres ac yn gyffrous i ddatblygu cynulleidfa newydd dros ganolfannau yng Nghymru."