Cau clwb nos lle bu farw dyn yn Birmingham
Mae clwb nos yn Birmingham lle cafodd pêl-droediwr ei drywanu i farwolaeth wedi gorfod cau ei ddrysau ar ôl colli ei drwydded.
Bu farw Cody Fisher ar ôl iddo gael ei drywanu yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45 ar Ŵyl San Steffan.
Fe wnaeth Cyngor Dinas Birmingham wahardd trwydded y clwb nos ym mis Rhagfyr, wedi i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ddweud fod yna "fethiannau rheoli sylweddol" yno.
Ychwanegodd yr heddlu fod y ffordd yr oedd y clwb yn gweithredu yn peri "risgiau brawychus" i gwsmeriaid, gyda mesurau diogelwch "anaddas" a chyffuriau yn cael eu defnyddio "yn agored."
Bellach mae'r cyngor wedi gwahardd trwydded y clwb yn barhaol, gan olygu y bydd ei ddrysau yn aros ar gau. Ni fydd y clwb yn ail-agor tra bod ei berchnogion yn gwneud unrhyw apel yn erbyn y penderfyniad.
Mae tri dyn, rhwng 18 a 22 oed, wedi'u cyhuddo o lofruddio Mr Fisher ac yn parhau yn y ddalfa, Fe fydd eu hachos llys yn dechrau fis Gorffennaf.