Newyddion S4C

Enwebiadau'r Oscars yn cael eu cyhoeddi

24/01/2023
S4C

Mae enwebiadau'r Oscars wedi eu cyhoeddi mewn seremoni yn Los Angeles ddydd Mawrth.

Fe wnaeth yr actorion Riz Ahmed ac Allison Williams gyhoeddi'r enwebiadau yn Theatr Samuel Goldwyn yn Beverly Hills.

Everything Everywhere All At Once oedd y ffilm a dderbyniodd y nifer fwyaf o enwebiadau, gydag 11.

Fe wnaeth y ffilmiau All Quiet on the Western Front, Elvis a Top Gun: Maverick hefyd dderbyn nifer o enwebiadau.

Derbyniodd Avatar: The Way of Water bedwar enwebiad, ar ôl cryn dipyn o ddisgwyl am y ffilm.

Mae John Williams wedi torri record am y person hynaf i dderbyn enwebiad ar gyfer y gwobrau, yn 90 oed.

Cafodd ei enwebu am sgôr ffilm The Fabelmans, dyna oedd enwebiad rhif 53 iddo.

Dyma'r ffilmiau gyda'r nifer fwyaf o enwebiadau:

1. Everything Everywhere All At Once – 11

2. All Quiet on the Western Front – 9 

3. The Banshees of Inisherin – 9

4. Elvis – 8

5. The Fabelmans – 7

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.