Dedfrydu dyn o Bontypridd i 14 mlynedd o garchar am fasnachu pobl
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i 14 mlynedd o garchar ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plant a masnachu pobl.
Yn 2021, fe wnaeth Amit Sethi, 43, o Bontypridd dalu i ferch 15 oed o'r Almaen deithio i'w gartref yn Nhrefforest ar ôl iddo'i pherswadio eu bod mewn perthynas.
Roedd Mr Sethi yn ymwybodol fod y ferch yn fregus ond fe wnaeth barhau gyda'r berthynas ar-lein cyn talu am ei thrafnidiaeth i'r DU.
Cafodd Mr Sethi ei arestio a chafodd y ferch ei chludo yn ôl i'r Almaen.
Dywedodd y barnwr ar ôl ei ddedfrydu na wnaeth Mr Sethi ddangos unrhyw "edifeirwch" a'i fod yn "droseddwr rhyw anedifeiriol".
Cafodd hefyd ei ddisgrifio fel rhywun a oedd yn hoff o "reoli" ac wedi ei ysgogi gan "ecsbloetiaeth rywiol".
Cafodd Mr Sethi ei roi ar y Gofrestr Troseddau rhyw yn dilyn yr euogfarn.