'Angen gofal' wrth archebu gwyliau
Mae angen i bobl sy’n archebu gwyliau ar hyn o bryd fod ar eu gwyliadwraeth, yn ôl arbenigwyr ar ddiogelwch ar-lein.
Mae pryderon y gallai rhai teuluoedd gymryd mwy o risgiau nag arfer gyda’u harian oherwydd y pwysau yn sgil y cynnydd yng nghostau byw.
Rhybudd arbenigwyr yw bod twyllwyr yn medru denu pobl i dalu yn uniongyrchol dros y we, drwy gyhoeddi hysbysebion ffug sy’n ymddangos yn rhai gonest.
Mae cwmni archebu gwyliau Airbnb ac arbenigwyr ym maes diogelwch ar-lein Get Safe Online yn annog pobl i fod yn ofalus.
"Wrth i gostau byw godi, ry’n ni’n awyddus i warchod arian pobl ac yn eu hannog felly i fod ar eu gwyliadwraeth pan yn archebu gwyliau," meddai Tony Neate, pennaeth Get Safe Online.
“Os yw’r fargen yn ymddangos yn anghredadwy, yna mae’n bur debyg ei bod hi. “
Mewn arolwg fis Rhagfyr, dywedodd 25% o bobl a gafodd eu holi yn y Deyrnas Unedig, na fydden nhw’n medru fforddio gwyliau eleni oni bai eu bod yn llwyddo i fachu bargen. Roedd y ganran yn 30% ar gyfer y rhai a oedd yn y categori 18 i 34 oed.
Roedd 10% yn fodlon prynu gwyliau trwy ddarparwr anghyfarwydd, pe bai’r cynnig yn rhatach.
Y cyngor ydy:
1. I beidio â chlicio ar ddolenni annisgwyl.
2. I fod yn ofalus iawn os yw'r fargen yn eithriadol o rhad neu bod angen blaendal sylweddol.
3. Ceisio talu gyda cherdyn credyd, gan fod mwy o obaith cael yr arian yn ôl, pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.
Oes oes rhywun yn amau eu bod wedi cael eu twyllo, yna’r cyngor ydy i gysylltu â’r banc a’r heddlu ar unwaith.