‘Gallai Llywodraeth y DU atal deddfau Cymru fel yn yr Alban’
Gallai Llywodraeth y DU atal deddfau o Gymru yn yr un modd a deddfau'r Alban pe baen nhw’n dymuno gwneud hynny, yn ôl ymchwilwyr y Senedd.
Mae Adran 114 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dweud y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol atal y Llywydd rhag cyflwyno Bil ar gyfer y Cydsyniad Brenhinol “os oes ganddo sail resymol” dros wneud hynny.
Daw hyn wedi i Ysgrifennydd Yr Alban yn Llywodraeth y DU, Alistair Jack, rwystro un o ddeddfau newydd Senedd yr Alban.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn y Senedd bod atal deddfau datganoledig yn “eiliad beryglus iawn” i ddatganoli.
“Rydw i’n meddwl fod penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio grymoedd sydd erioed wedi eu defnyddio o’r blaen yn hanes datganoli yn eiliad beryglus iawn,” meddai.
“Ac rydw i’n cytuno gyda Phrif Weinidog yr Alban y gallai hyn fod yn llethr hynod o lithrig.”
‘Erioed wedi’i ddefnyddio’
Ac yn ôl ymchwilwyr y Senedd mae’r grymoedd yno i wneud yr un fath yng Nghymru.
Dywedodd Josh Hayman a Phil Lewis, Ymchwilwyr y Senedd, fod gan Ysgrifennydd Gwladol y DU bŵer tebyg i atal darn o ddeddfwriaeth Cymru rhag dod yn gyfraith.
Byddai yn rhaid ei fod yn credu fod y ddefwriaeth:
- yn cael effaith andwyol ar faterion a gedwir yn ôl i Senedd San Steffan
- yn cael effaith andwyol ar y gwaith o weithredu’r gyfraith fel y mae’n gymwys yn Lloegr
- yn anghyson ag unrhyw rwymedigaeth ryngwladol neu er budd amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol.
“Dim ond mewn cyfres gyfyngedig o amgylchiadau y caniateir gwneud hyn ac o fewn pedair wythnos i'r Bil gael ei basio (neu o fewn pedair wythnos i benderfyniad gan y Goruchaf Lys os yw'n berthnasol),” medden nhw.
“Nid yw'r pŵer hwn erioed wedi'i ddefnyddio mewn perthynas â Bil gan y Senedd.”