
Deintyddiaeth yng Nghymru 'ddim yn gweithio ar hyn o bryd'

Deintyddiaeth yng Nghymru 'ddim yn gweithio ar hyn o bryd'
Mae deintyddiaeth drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru "ar y dibyn" a "ddim yn gweithio fel mae pethau yn sefyll" yn ôl un deintydd blaenllaw.
Fe wnaeth ymchwil gan y BBC yn ystod haf y llynedd ganfod bod dim un deintyddfa yn derbyn oedolion fel cleifion newydd yn 10 o 22 awdurdod lleol y wlad.
Dyw triniaeth ddeintyddol ddim yn rhad ac am ddim i fwyafrif oedolion Cymru, ond mae wedi ei sybsideiddio.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi addo £2 filiwn o gyllid ychwanegol fydd yn sicrhau 112,000 o apwyntiadau "ychwanegol".
Ond Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) wedi beirniadu'r cyhoeddiad, gan gyhuddo'r llywodraeth o "wneud datganiadau camarweiniol" a bod yn "amharod i fuddsoddi a dod a'r nifer sy'n gadael y gweithlu gwladol i stop."
Yn ôl y gymdeithas, mae contractau newydd gan Lywodraeth Cymru i ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd yn rhoi pwyslais ar dderbyn cleifion newydd, ond maen nhw'n honni bod rhai sydd eisoes wedi cofrestru gyda deintydd yn dioddef.
Yn ôl y BDA, am bob claf newydd sydd yn cael eu gweld, "mae dwsin o bobl sydd eisoes dan ofal deintydd yn colli mynediad i wasanaethau deintyddol."
'Colli pwrpas'
Mae Tristan Roberts yn aelod o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain.
Yn ddeintydd ers degawd, mae wedi gweithio i'r gwasanaeth iechyd ers graddio. Ond mae e nawr wedi penderfynu rhoi'r gorau i weithio i'r GIG. Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C:
"Dwi'n credu ei fod e [deintyddiaeth drwy'r GIG] ar y dibyn.
"Dwi'n credu ein bod ni'n colli ffordd o ran pwrpas deintyddiaeth dyddiau yma. Mae y pwyslais ar ariannu a thorri costau.

"Mae'n rhaid iddyn nhw [Llywodraeth Cymru] feddwl am ble maen nhw eisiau mynd a phethau, a bod yn agored gyda ni fel deintyddion am beth maen nhw'n disgwyl gennym ni a gyda chleifion hefyd am beth allan nhw ddisgwyl yn hytrach na phawb yn gweithio ar eu telerau eu hunain a gwneud i bethau ffitio.
"Dyw e ddim yn gweithio ar hyn o bryd."
'Blin'
Mae Newyddion S4C wedi clywed am nifer o ddeintyddfeydd mewn gwahanol rannau o Gymru sydd wedi rhoi'r gorau i'w gwasanaethau drwy'r Gwasanaeth Iechyd, gan droi at gynnig gwasanaeth preifat yn unig.
Yr wythnos yma, derbyniodd cleifion deintyddfa Marcwis yn Llanfairpwllgwyngyll lythyr oedd yn nodi bod "newidiadau diweddar i'r ffordd mae'r llywodraeth yn disgwyl i ni ddarparu triniaeth i gleifion drwy'r Gwasanaeth Iechyd yn gwneud hi'n amhosib i ni barhau i ddarparu gofal o'r safon rydyn ni'n ei ddymuno i gleifion."
O ddechrau Ebrill, mae'r ddeintyddfa yn dweud mai gofal preifat yn unig fydd yn cael ei gynnig ganddyn nhw.
Mewn rhannau eraill o Gymru, mae rhai cleifio methu dod o hyd i driniaeth o gwbl.
Mae Dafydd Williams yn 73 oed ac yn byw yn y Drenewydd, Powys.
Yn ôl astudiaeth y BBC, doedd dim un deintyddfa yn derbyn oedolion newydd fel cleifion drwy'r Gwasanaeth Iechyd yno.
Mae Mr Williams nawr yn teithio dros y ffin i Telford i weld deintydd - taith o dros 100 milltir yno ac yn ol, er ei fod yn byw yn y Drenewydd ers dau ddegawd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Dwi'n flin a dweud y gwir bod rhaid i ni drafeilio filltiroedd i gael gweld deintydd.
"'Da ni'n mynd ddwywaith y flwyddyn i gael check-up, ond os oes rhywbeth eisiau cael ei wneud a maen nhw'n dweud, mae'n rhaid i chi ddod nol mewn 10 diwrnod neu bythefnos, mae diwrnod arall yn mynd."

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi codi cwestiynau am fynediad i ddeintyddion drwy'r Gwasanaeth Iechyd ar lawr y Senedd.
Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth ddiwedd y llynedd, darganfyddodd bod 794 o blant ym Mhowys yn unig ar restr aros i gofrestru gyda deintydd drwy'r GIG.
"Mae gyda ni ryw fath o '2-tier system' yma yng Nghymru; pobl sy'n gallu fforddio talu am ddeintydd a phobl sydd ddim. Dyw hynny ddim yn iawn, ddim yn deg," meddai.
"Mae'n rhaid i ni gael system gyhoeddus dros Gymru sydd yn gwneud yn siwr, os ydych chi'n dlawd neu ddim yn gallu fforddio cael deintydd, bod 'na system sydd yn dweud dyma ddeintydd i chi a bod honno'n system gyhoeddus."