Cronfa 'Codi'r Gwastad' Llywodraeth y DU yn rhoi £208m i gynlluniau Cymreig

19/01/2023
gorsaf tren Bae Caerdydd

Fe fydd llinell reilffordd newydd rhwng bae Caerdydd a chanol y ddinas yn cael ei datblygu ar ôl derbyn arian o Gronfa Codi'r Gwastad ('Levelling Up') Llywodraeth y DU.

Mae'r cynllun yn un o 11 drwy Gymru i dderbyn cyfanswm o £208m, ac mae'r cynlluniau eraill yn cynnwys llwybr beicio diogel rhwng Cyffordd Llandudno a Betws y Coed, llwybrau cerdded a beicio newydd yng Nghaergybi, trawsnewid Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, ac adfywio tri safle treftadaeth diwydiant yng Nghwm Tawe Isaf.

Dywed y llywodraeth y bydd arian o'r gronfa yn creu swyddi gan ysgogi twf economaidd ac yn "lledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal."

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak: “Trwy fuddsoddi mwy mewn ardaloedd lleol, gallwn dyfu’r economi, creu swyddi da a lledaenu cyfleoedd ym mhobman.

“Dyna pam rydyn ni’n cefnogi nifer o brosiectau gyda chyllid trawsnewidiol newydd i lefelu cymunedau lleol yng Nghymru.

“Trwy gyrraedd hyd yn oed mwy o rannau o’r wlad nag o’r blaen, byddwn yn adeiladu dyfodol o optimistiaeth a balchder ym mywydau pobl a’r lleoedd maen nhw’n eu galw’n gartref.” 

Mae'r cynlluniau dan sylw sydd wedi derbyn yr arian yn cynnwys:

  • £50 miliwn ar gyfer cynllun Crossrail Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell newydd rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog.
  • £18.6 miliwn ar gyfer llwybr beicio diogel ac uniongyrchol rhwng Cyffordd Llandudno a Betws y Coed drwy Ddyffryn Conwy. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys mesurau i liniaru yn erbyn llifogydd.
  • £17.8 miliwn er mwyn adfer yr ystâd hanesyddol yng Nghwm Nedd ac adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd.
  • £17 miliwn ar gyfer adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd i ddod â phobl yn nes at ei gilydd yng Nghaergybi a galluogi ymwelwyr a phobl leol i archwilio safleoedd Eglwys Sant Cybi a’r Gaer Rufeinig.
  •  £18 miliwn i drawsnewid Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl.
  • £9 miliwn ar gyfer ampws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc ym Mlaenau Gwent
  • £20 miliwn er mwyn adfer ac adfywio tri safle treftadaeth yng Nghwm Tawe Isaf. Mae hyn yn cynnwys Gwaith Copr y Morfa a bydd yn creu siopau, bwytai a marchnadoedd newydd, ac uwchraddio Amgueddfa Abertawe.
  • £7.6 miliwn ar gyfer Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl yn Nhorfaen
  • £20 miliwn ar gyfer canolfan hamdden yng Nghaerffili, gan gynnwys campfa a phwll nofio newydd.
  • £18.8 miliwn er mwyn uwchraddio llwybrau cerdded a beicio ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru a chanolfan gelfyddydol Neuadd Ogwen yng Ngwynedd
  • £11 miliwn er mwyn adfer yr henebion hanesyddol yn Rhuthun, gan gynnwys Eglwys San Pedr a sgwâr y dref.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bellach mae gan Gymru lai o lais dros lai o arian, ac mae pob penderfyniad ar gyllid Codi'r Gwastad ar gyfer prosiectau lleol wedi eu gwneud yn Whitehall."

"Mae'r broeses anhrefnus bellach yn costio swyddi ac mae prosiectau eraill y mae mawr eu hangen yn cael eu methu o ganlyniad i'r arian a gollwyd.

"Dyw newyddion heddiw ddim yn dod yn agos at gwrdd â'r cyllid a addawyd gan weinidogion y DU yn 2019."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.