18 wedi eu lladd yn Wcráin gan gynnwys Gweinidog o'r llywodraeth

18/01/2023
Denys Monastyrskyj, llun gan Mvs.gov.ua (CC BY 4.0).
Denys Monastyrskyj, llun gan Mvs.gov.ua (CC BY 4.0).

Mae 18 o bobl wedi eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Wcráin gan gynnwys Y Gweinidog Materion Mewnol, Denys Monastyrsky.

Digwyddodd y ddamwain wrth ymyl meithrinfa ger y brifddinas, Kyiv, fore Mercher.

Y gred yw bod tri o blant ymhlith y rhai sydd wedi marw.

Mae un o lefarwyr y llywodraeth wedi dweud bod dirprwy Y Gweinidog Materion Mewnol, Yevhen Yenin, ac Ysgrifennydd y Gweinidog Materion Mewnol, Yurii Lubkovych, hefyd wedi marw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.