Y DU ac UDA i barhau i gefnogi Wcráin 'cyhyd ag y bo angen'
Mae'r DU ac UDA wedi addo i barhau i gefnogi Wcráin yn y frwydr yn erbyn Rwsia "cyhyd ag y bo angen."
Yn dilyn trafodaethau yn Washington rhwng Ysgrifennydd Tramor y DU James Cleverly ddydd Mawrth, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, groesawu penderfyniad y DU i anfon sgwadron o danciau i Wcráin.
Dywedodd hefyd y byddai'r Unol Daleithiau yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau yn y dyddiau i ddod.
"Rydym yn benderfynol o sicrhau fod gan Wcráin yr hyn sydd ei angen arni i lwyddo ar faes y gad," meddai.
Our partnership has never been stronger.
— Secretary Antony Blinken (@SecBlinken) January 18, 2023
Together, we’re united against Russia’s unprovoked, unjustifiable, and horrific invasion of Ukraine. pic.twitter.com/L2KugkWMiL
Er bod Prydain wedi addo i anfon 14 tanc Challenger 2 i ddwyrain Ewrop ar unwaith, mae'r Arlywydd Zelensky wedi galw am 300 o danciau milwrol gorllewinol er mwyn galluogi ei luoedd i lwyddo yn erbyn Rwsia.
Dywedodd Mr Cleverly fod y DU a UDA wedi gweithio "yn agos" ynghyd â chynghreiriaid eraill ers dechrau'r gwrthdaro i sicrhau fod gan Wcráin y gefnogaeth briodol.
Llun: Antony Blinken / Twitter