Heddlu'r Met wedi diswyddo'r plismon David Carrick am gamymddwyn difrifol

17/01/2023
David Carrick

Mae Heddlu'r Met wedi diswyddo'r plismon David Carrick am gamymddwyn difrifol.

Mae Carrick sy'n 48 oed, wedi pledio'n euog i 49 cyhuddiad, yn cynnwys 24 achos o dreisio 12 dynes dros gyfnod o 18 mlynedd.

Ddydd Llun, ymddiheurodd yr heddlu yn Llundain i ddioddefwyr Carrick.  Fe ddaeth hi i'r amlwg iddo ddod i sylw'r heddlu ar naw achlysur. 

Roedd y rhain yn cynnwys honiadau o dreisio, trais domestig ac aflonyddu rhwng 2000 a 2021.

Yn y gwrandawiad camymddwyn ddydd Mawrth, dywedodd y cwnsler Hywel Jenkins fod yr honiadau o gamymddwyn difrifol yn erbyn David Carrick yn gysylltiedig â'r achos yn llys yr Old Bailey ar 13 Rhagfyr pan blediodd yn euog i 43 o gyhuddiadau. 

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yn ei absenoldeb.

Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman, fod "ddoe yn ddiwrnod tywyll ym maes plismona ym Mhrydain ac i Heddlu'r Met".

“Mae'n holl bwysig fod Heddlu'r Met a lluoedd eraill yn ymdrechu hyd eithaf eu gallu i gael gwared â swyddogion llygredig.  Mae hynny'n golygu y gallai mwy o achosion brawychus ddod i'r amlwg yn y tymor byr," meddai.

Fe ymunodd David Carrick â'r Met yn 2001 cyn dod yn swyddog arfog yn 2009 ac ni wynebodd unrhyw sancsiynau troseddol neu ganfyddiadau o gamymddygiad.

Cafodd ei atal o'i waith ar ôl cael ei arestio yn dilyn ail gwyn am dreisio ym mis Hydref 2021 - ond nid yw'r darlun llawn yn gallu cael ei gyfleu am resymau cyfreithiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.