
'Angen proffesiynoli' elfennau o gynghrair y Cymru Premier JD
'Angen proffesiynoli' elfennau o gynghrair y Cymru Premier JD
Ar drothwy ei fis olaf fel rheolwr y Cymru Premier JD, mae Gwyn Derfel wedi dweud bod "angen proffesiynoli" y gynghrair ar y cae ac oddi arno.
Mae Gwyn Derfel wedi bod yn rheolwr ar y gynghrair dros yr 11 blynedd diwethaf, ac yn ei gyfnod wrth y llyw mae'n dweud bod ganddo nifer o uchafbwyntiau.
Un ohonynt oedd gweld tîm Cymru C yn sicrhau nifer o ganlyniadau campus yng nghystadlaethau Ewrop, ac mae'n edrych yn ôl ar ei gyfnod â balchder.
"Dwi'n teimlo ei fod yn fraint aruthrol bod fi wedi cael y cyfle i arwain y cynghrair cenedlaethol am 11 o flynyddoedd.

"Digwyddiadau penodol - nifer o'r canlyniadau yn Ewrop. Cei Connah yn curo Helsinki, dwi'n cofio hwnnw ym Mangor. Y Seintau Newydd yn curo Viktoria Plzeň yn y cymal cynta', llai na blwyddyn wedyn o'n nhw yng ngrwpiau Cwpan y Pencampwyr.
"Ac yn gyffredinol dwi'n meddwl mae safon y cynghrair ei hun, fel mae 'di gwella dros y blynyddoedd. Yn anffodus dio'm yn ca'l y cydnabyddiaeth mae o'n haeddu o ran nifer y cefnogwyr sy'n dod trwy'r gatiau."
'Proffesiynoli gweinyddiaeth'
Ond er yr holl uchafbwyntiau, mae Gwyn Derfel yn ymwybodol fod y gynghrair yn wynebu ei heriau.
Un o'r prif heriau ydy diffyg proffesiynoldeb y gynghrair, meddai. Ac er ei fod yn cydnabod bod gwaith mae gwirfoddolwyr y clybiau yn ei wneud yn werthfawr, mae'n dadlau fod angen proffesiynoli agweddau oddi ar y cae.
"Un peth sydd yn amlwg o siarad efo gwledydd eraill ydy, 'di gweinyddiaeth fewnol ein clybiau ni ddim yn broffesiynnol. A dyna un o'r petha' fysa'n olynnydd i dargedu yn syth bin.
"Unwaith ydach chi'n proffesiynoli petha' oddi ar y cae, yna fydd petha' ar y cae yn dilyn.
"A dwi'n credu os 'dach chi'n gallu gwneud hynny i bob un o'r clybia' yn y Cymru Premier fydd safon y cynghrair drwyddi draw yn gwella ag yn cynyddu a bydd y llwyddianna' wedyn yn dilyn."
'Penderfyniadau allweddol'
Ar hyn o bryd, mae'r gynghrair yng nghanol adolygiad, fydd yn dod i ben ym misoedd yr haf.
Er bydd Gwyn Derfel wedi gadael ei swydd erbyn hynny, mae'n gobeithio y bydd penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud er lles dyfodol y gynghrair.
" Da ni yng nghanol adolygiad rwan o'r Cymru Premier fydd yn dod i fwcwl erbyn yr ha'. A does dim byd sydd ddim yn bosib i'w trafod, felly ma' bob elfen o wella y cynghrair oddi ar y cae ag ar y cae yn cael eu hystyried.
"Erbyn yr ha' 'ma mi fydd na' benderfyniada' allweddol wedi cael eu gwneud am dyfodol y Cymru Premier."