Teyrngedau i'r newyddiadurwr Clive Betts

16/01/2023
Clive Betts

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r newyddiadurwr Clive Betts.

Bu farw cyn-newyddiadurwr a cholofnydd y Western Mail fore Sul.

Cafodd ei eni yn Hedge End, Southampton cyn graddio o Brifysgol Aberystwyth a symud i fyw i Gaerffili.

Dechreuodd ei yrfa gyda'r South Wales Echo yn 1965 cyn symud i'r Western Mail a bu'n gohebu ar wleidyddiaeth Cymru o'r 80au ymlaen ac ar y Cynulliad yn nyddiau cynnar datganoli.

Ysgrifennodd gyfres o lyfrau gan gynnwys Cardiff & the Eisteddfod, The Political Conundrum, A Oes Heddwch? a Culture in Crisis: The Future of the Welsh Language.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fab Aled Betts fod ei deulu "yn falch" ohono.

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones: "Pob cydymdeimlad i chi a'r teulu ar y golled yma.

"Mi oedd Clive Betts yn un o gymeriadau blynyddoedd cyntaf y Cynulliad ac yn holl bresennol ym mywyd gwleidyddol Cymru.

"Dyddiau da. Cofio'n annwyl amdano."

Dywedodd y cyn Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin, Gwynoro Jones, mai Clive Betts oedd "newyddiadurwr gwleidyddol a materion cyfoes amlycaf Cymru am dros ddwy ddegawd".

"Treuliais lawer o amser gyda Clive ac mi'r oedden ni'n ffrindiau da. Mae gen i atgofion melys iawn ohono."

Dywedodd yr academydd a'r gwleidydd Dr Dafydd Trystan Davies: "Mae'n ddrwg iawn gen i glywed fod Clive Betts wedi ein gadael. Bu'n gohebu'n ddiwyd (ac yn heriol) am Gymru mewn cyfnod pam oedd fflam datganoli yn egwan (ar y gorau) ond mi ddaliodd ati, ac mi welodd maes o law dyfodiad Senedd Cymru.

"Coffa da amdano."

Image
Clive Betts yn 1972
Clive Betts yn 1972

'Dawnus'

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru ei fod yn "newyddion trist iawn" a bod ei gyfraniad yn "sylweddol iawn".

Ychwanegodd fod ganddi "nifer o atgofion o Clive sy'n codi gwên, yn enwedig o'r cyfnod pan oeddwn yn newyddiadura".

Dywedodd Martin Shipton fod Mr Betts "wedi ei barchu'n fawr am ei am ei waith gwleidyddol dros nifer o flynyddoedd".

 

Image
Llyfrau Clive Betts
Cyfrolau gan Clive Betts

Mae nifer o wleidyddion hefyd wedi rhoi teyrnged i'r cyn-newyddiadurwr.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd ar Ynys Môn, ei fod yn "falch o fod wedi gallu cydweithio âg o mewn dyddiau tra gwahanol i newyddiaduraeth yng Nghymru".

Yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, roedd Clive Betts "bob amser yn garedig a hael i mi ac roedd yn hapus iawn i rannu ei wybodaeth gefndirol".

Dywedodd Aelod Seneddol Caerffili, Hefin David, ei fod yn "newyddiadurwr dawnus". 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.