Mam yn diolch i lawfeddygon am achub golwg ei mab dros y Nadolig

14/01/2023
S4C

Mae mam wedi diolch i lawfeddygon am achub golwg ei mab ifanc ar ôl damwain annisgwyl ar Noswyl Nadolig.

Roedd yn rhaid i Theo, sy’n bum mlwydd oed, gael llawdriniaeth frys wedi’i rhan o ddysgl wydr oedd wedi dymchwel achosi rhwyg yn ei lygaid dde.

Dywedodd ei fam, Cara Williams: “Cyrhaeddon ni yn yr Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd  ganol y prynhawn a chawsom ein gweld yn gyflym iawn, ac roeddem yn ddiolchgar am hynny gan ei bod yn ofnadwy o brysur.

“Roeddem yn ofnadwy o bryderus bryd hynny gan ein bod ni’n meddwl ei fod yn mynd i golli ei olwg, ond roedd Dr Pete Williams a Dr Michal Washington yn wych yn darparu gofal cyflym ac yn ein diweddaru ar yr hyn a oedd yn digwydd.”

Roedd yn rhaid i Theo gael llawdriniaeth frys i achub ei olwg yn ei lygaid fore Nadolig.

Dywedodd Mr Amjad: “Roedd Theo bach mewn sefyllfa beryglus iawn ac roedd angen llawdriniaeth frys ar y llygad. Heb driniaeth lawfeddygol frys, byddai Theo wedi colli ei olwg yn llwyr yn ei lygad dde.

 “Cymerodd y llawdriniaeth tua dwy awr, cafodd y rhwyg yn y llygad ei chyweirio a’i phwytho.”

Roedd yn rhaid i Theo aros yn yr ysbyty am rhai dyddiau wedi’r llawdriniaeth lle bu’n cael ei fonitro gan y staff gofal iechyd yn rheolaidd.

Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiant ac mae bron i 100% o olwg Theo wedi dychwelyd yn ei lygad dde.

Ychwanegodd Cara: “Ni allwn ddiolch digon fel teulu i staff yr ysbyty am yr hyn a wnaethant i Theo.

 “O’r eiliad y cyrhaeddon ni’r Adran Achosion Brys hyd at y theatr a’n harhosiad ar Ward Dewi, roedd y gofal yn wych ac roeddem yn teimlo fel ein bod wedi derbyn y gofal gorau posib drwy gydol y broses.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.