Cais am arian i gael gwared ar ffordd sy'n hollti tref Caernarfon
Mae Cyngor Gwynedd yn y broses o wneud cais am arian gan Lywodraeth Cymru i weld a oes modd tynnu trosffordd sy’n torri trwy ganol tref Caernarfon.
Cafodd y drosffordd sy’n croesi rhwng ardal Twthill a chanol y dref ei hadeiladu yn yr 80au i alluogi cerbydau’r A487 i osgoi rhannau o ganol Caernarfon.
Fe gostiodd y prosiect filiynau o bunnoedd gan hefyd olygu dinistrio llawer o adeiladau ardal Twthill, gan gynnwys ysgol, llyfrgell a dau gapel.
Yn ôl Cyngor Gwynedd maent hefyd yn bwriadu gwneud “gwaith ycmhwil mynylach i adanbod pa gyfleoedd all godi, drwy dynnu’r dros-bont, i wella’r isadeiledd trafnidiaeth yn y rhan yma o’r dref a’r ardal ehangach.”
Fe wnaeth y Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd 2021 i gasglu barn pobl leol am ddyfodol y drosffordd yng Nghaernarfon, ac roedd nifer o bobol leol o blaid cael ei gwared.
Ym mis Mai, 2022 dywedodd y Cyngor bod pedwar opsiwn sef; Cadw pethau fel ag y maen nhw, troi’r drosffordd yn bont werdd a thyfu coed a gwair ar gyfer cerddwyr a beicwyr, dymchwel y drosffordd a chadw’r gylchfan yma neu dymchwel y drosffordd a chodi cylchfan newydd sbon.
Mae’r cyngor yn monitro’r bont ac y newidiadau mewn llif traffig ar hyd yr hen ffordd ar ôl i ffordd osgoi newydd Caernarfon a Bontnewydd agor.
Bydd y data hwn yn “bwydo i mewn i unrhyw ystyriaethau ynghylch datblygiadau yn y dyfodol gan gynnwys unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y dros-bont.”