Penderfynu cadw un o gyn-byllau glo dyfnaf y byd yn amgueddfa
Mae cynghorwyr yng Nghastell-Nedd Port Talbot wedi penderfynu cadw beth oedd ar un adeg yn un o byllau glo dyfnaf y byd yn amgueddfa.
Y nod fydd troi Amgueddfa Gwaith Glo Cefn Coed yn atynfa boblogaidd ar gyfer twristiaid.
Agorodd yr amgueddfa yn 1878 yn wreiddiol ac roedd wedi ei sefydlu ar safle cyn bwll glo carreg a oedd y dyfnaf yn y byd ar un cyfnod.
Mae’n cynnwys y casgliad mwyaf o foeleri ager yn y Deyrnas Unedig.
Roedd cynghorwyr wedi ystyried sawl dewis gwahanol ar gyfer y safle ers iddo gau ar ddechrau’r pandemig Covid-19.
Roedd yr opsiynau yn cynnwys trosglwyddo’r safle i ofal Llywodraeth Cymru neu ei gadw ond peidio â chynnal yr amgueddfa.
Yn y pen draw penderfynwyd cadw’r amgueddfa a’i ddatblygu ymhellach.
“Mae’r amgueddfa hon o bwysigrwydd mawr i bobl yr ardal ac mae’r potensial sydd gennym yma i’w gwneud yn atyniad treftadaeth arbennig yn enfawr,” meddai Cynghorydd Crynant, Onllwyn a Blaendulais, Sian Harris.
“Mae’n ddarn arbennig o hanes mwyngloddio, ac mae’n bwysig iawn i’r bobol sy’n byw yma.
“Mae yna lawer o bobl yn yr ardal leol a fyddai wedi gweithio yno neu sydd â theulu yn gweithio yn y pwll glo.“
Llun: Pwll glo Cefn Coed. Llun gan Gyngor Castell-Nedd Port Talbot