Disgwyl i streiciau'r GIG barhau ar ôl i undebau wrthod cynnig Llywodraeth Cymru
Mae disgwyl i nyrsys a staff ambiwlans barhau i streicio ar ôl i undebau wrthod cynnig Llywodraeth Cymru am daliad untro i’w gweithwyr.
Roedd nifer o undebau iechyd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gyda chynrychiolwyr y llywodraeth, gan gynnwys y gweinidog iechyd Eluned Morgan, ddydd Iau.
Y nod oedd dod â'r anghydfod dros gyflogau i ben.
Ond dywedodd penaethiaid undebau nad oedd y taliad arian untro “yn ddigon” i fynd i’r afael â’r phroblemau sy’n cael eu hachosi gan gyflogau is na chwyddiant.
Nid yw'r swm a gynigiwyd wedi'i ddatgelu.
Mae trafodaethau pellach wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnos nesaf.
Diolchodd Eluned Morgan: "Hoffwn ddiolch i'r holl undebau iechyd am ddod i'r cyfarfod heddiw ac am gymryd rhan mewn modd adeiladol.
"Rydym yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimlad ymhlith aelodau'r undebau, sydd wedi ei fynegi drwy'r pleidleisiau diweddar dros weithredu diwydiannol a'r streiciau sydd wedi dilyn.
"Gobeithio gallwn ni barhau gyda'r trafodaethau hyn yn ein ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol."
‘Bai’
Ond cyhuddodd Helen Whyley, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, y llywodraeth o “beidio â thrafod cyflogau o ddifrif”.
“Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r bai ar ddiffyg cyllid ychwanegol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb,” meddai.
“Mae angen iddyn nhw fuddsoddi mewn nyrsys o Gymru sy’n darparu gwasanaethau GIG Cymru i bobl Cymru.
“Oni bai eu bod yn gwneud hynny ar frys, fe fyddwn ni’n cyhoeddi rhagor o ddyddiau streic i Gymru, yn fuan.”