Bydd cynllun £1.7 biliwn ar gyfer morlyn yn Abertawe 'yn digwydd'

12/01/2023
Eden Las ac Andrea Lewis. Llun gan Gyngor Abertawe
Eden Las ac Andrea Lewis. Llun gan Gyngor Abertawe

Mae cynllun gwerth biliynau o bunnoedd i greu morlyn ynni adnewyddadwy yn Abertawe yn debygol iawn o gael ei wireddu, meddai cynghorwyr.

Fe allai'r prosiect £1.7bn olygu trydan rhatach i drigolion, yn ôl arweinwyr cyngor y ddinas.

Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis y bydd y cynllun, Eden Las, “yn digwydd”.

Dywedodd y prif weithredwr Martin Nicholls ei fod yn disgwyl iddo gael ei ariannu'n llawn gan y sector preifat.

Roedd y pwnc wedi codi mewn cyfarfod craffu'r cyngor. Gofynnodd Karen Lawrence, o Rwydwaith Gweithredu Hinsawdd Abertawe, pam nad oedd gan y ddinas forlyn ynni llanw ar waith.

Dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis ei bod yn teimlo y dylai Abertawe fod wedi cael morlyn erbyn hyn.

Ond nid oedd y morlyn a gynigiwyd yn flaenorol wedi cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen gan y llywodraeth.

Dywedodd fod gan brosiect newydd Blue Eden ddigon o fuddsoddiad preifat ac ychwanegodd: “Bydd hyn yn digwydd – mewn gwirionedd mae’n gynllun llawer gwell nag yr oedd.”

Mae Eden Las yn gynllun gan gwmni Batri Ltd o Ben-y-bont ar Ogwr a DST Innovations sy’n cael ei gefnogi gan y cyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.