Harry yn gwadu 'brolio' am lofruddio aelodau o'r Taliban
Mae'r Tywysog Harry wedi gwadu 'brolio' am lofruddio aelodau o'r Taliban.
Yn ei lyfr newydd, Spare, mae'r tywysog yn dweud ei fod wedi lladd 25 o aelodau'r Taliban wrth ymladd yn Afghanistan. Ond mae'n dweud fod honiadau ei fod yn brolio am hyn yn "gelwydd peryglus."
Wrth siarad ar y teledu yn UDA, dywedodd Harry ei fod wedi bod yn brofiad "heriol a niweidiol" wrth wylio'r ymateb i gyhoeddiad ei lyfr.
"Heb os, y celwydd mwyaf peryglus mae pobl wedi ei ddweud ydi fy mod i rywsut wedi bod yn brolio am y nifer o bobl wnes i ladd yn Afghanistan," meddai ar raglen The Late Show.
"Dylwn i ddweud, pe bawn i'n clywed rhywun yn brolio am y math yna o beth, byddwn i'n flin. Ond mae'n gelwydd.
"A gobeithio gan fod y llyfr allan rŵan, bydd pobl yn gallu gweld y cyd-destun."
Fe wnaeth cyn bennaeth y Llynges Frenhinol ddweud fod y tywysog wedi bod yn "wirion iawn" am roi manylion llofruddiaethau'r Taliban. Ychwanegodd ei fod yn pryderu am ddiogelwch yn ystod y Gemau Invictus yn Yr Almaen yn 2023 oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol â Harry.