Rhybudd melyn am ragor o law trwm i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am ragor o law trwm i rannau o Gymru nos Fercher a dydd Iau.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 21:00 ddydd Mercher ac yn para trwy'r nos hyd at 17:00 ddydd Iau, gan effeithio ar nifer o siroedd yn y de a'r gorllewin.
Daw hyn yn ystod cyfnod o dywydd gwlyb i Gymru, wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn arall am law ddydd Mawrth.
Mae'r swyddfa yn rhybuddio bod llifogydd i rai cartrefi a busnesau yn debygol ac y gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithiau ceir gael eu hoedi gan gyflwr y ffyrdd.
Mae yna hefyd bosibilrwydd y gall cyflenwadau pŵer a gwasanaethau eraill gael eu hamharu gan y glaw.
Mae 16 o siroedd wedi eu heffeithio gan y rhybudd melyn:
- Blaenau Gwent
- Ceredigion
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg