Amgueddfa Lloyd George ar gau wedi i beipen fyrstio
Mae Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ar gau yn sgil difrod dŵr ar ôl i beipen fyrstio yn yr adeilad.
Er hyn, mae gwaith atgyweirio wedi dechrau yn barod gyda rheolwyr yn gobeithio ail-agor y safle yn fuan.
Mae'r amgueddfa yn gartref i sawl peth gwerthfawr, o Gytundeb Versailles i wisgoedd i eitemau personol.
Yn ffodus, does dim o'r casgliad yma wedi eu difrodi gan y dŵr, gyda staff yr amgueddfa yn gweithio'n galed i sicrhau nad oes yna unrhyw ddifrod yn cael ei wneud tra bo'r gwaith atgyweirio yn mynd yn ei flaen.
Bydd staff yr amgueddfa yn cysylltu gydag ysgolion a grwpiau sydd eisoes wedi trefnu i ymweld yn yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi cynlluniau amgen ar waith.
"Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bydd modd ail-agor cyn gynted â phosib a bydd Cyngor Gwynedd yn darparu diweddariadau ynghylch sefyllfa," meddai llefarydd ar ran y cyngor.
"Gofynnir yn garedig i’r cyhoedd sy’n bwriadu ymweld â’r amgueddfa yn y gwanwyn i wirio gwefan y Cyngor cyn teithio i wneud yn siŵr os ydyw ar agor."