Gwerthwyr tai yng Nghymru y llynedd wedi gweld yr elw mwyaf erioed

09/01/2023
Chwilio am eiddo. Llun gan Yui Mok / PA
Chwilio am eiddo. Llun gan Yui Mok / PA

Y llynedd oedd yr amser gorau erioed i werthu tŷ - a gwerthwyr yng Nghymru wnaeth y ganran mwyaf o elw o bawb ar draws y Deyrnas Unedig, yn ôl un cwmni gwerthu eiddo.

Golygai’r twf cyflym mewn prisiau tai yng Nghymru yn sgil y pandemig fod rhywun oedd yn gwerthu tŷ yng Nghymru wedi gwneud elw o 59% ar gyfartaledd, yn ôl Hamptons.

Roedd hynny’n cymharu ag elw o 52% ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

“Mae’r cynnydd aruthrol mewn prisiau tai wedi rhoi hwb i’r elw y mae perchnogion tai wedi’i wneud wrth werthu,” meddai Aneisha Beveridge, pennaeth ymchwil Hamptons.

“Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o werthwyr yn gweld yr elw am ei fod yn cael ei ail-fuddsoddi yn y farchnad dai pan maen nhw’n prynu eu heidio nesaf.”

Cwymp

Neidiodd prisiau tai i’w uchaf erioed dros yr haf y llynedd ond maent wedi syrthio ychydig dros y misoedd diwethaf yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae cwmni eiddo Savills yn rhagweld cwymp o 8.5% ym mhrisiau tai yng Nghymru yn 2023, ac yn dweud y gallai gymryd hyd at dair blynedd i brisiau adennill eu lefel presennol.

Mae disgwyl i Gymru wneud ychydig yn well na gwledydd eraill y DU, fodd bynnag, gyda Lloegr yn gweld gostyngiad cyffredinol o 10% mewn prisiau tai yn 2023.

Bydd yr Alban yn gweld gostyngiad o 9%.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.