Arwyddion Cymraeg yn croesawu cefnogwyr Wrecsam wrth iddyn nhw faeddu Coventry
Roedd arwyddion Cymraeg yn croesawu cefnogwyr Wrecsam wrth iddyn nhw faeddu Coventry oddi cartref.
Gosodwyd yr arwyddion yn yr Hen Lane Social Club yn y ddinas sydd â thraddodiad cryf o ddiwylliant Cymreig.
Roedd yr arwydd yn dweud: "Mae'n bleser gennym groesawu cefnogwyr Wrecsam. Gobeithio y cewch chi ddiwrnod gwych yma gyda ni yng nghlwb cymdeithasol Hen Lon a phob lwc am weddill y tymor."
Mae gan Coventry gymuned Gymreig hirsefydlog.
Mae Cymdeithas Gambriaidd Coventry wedi cyfarfod yn wythnosol ers 1972, ac mae ei hamserlen flynyddol yn cynnwys sgyrsiau, nosweithiau cerddorol, nosweithiau cymdeithasol, Cinio Dewi Sant, Gwasanaeth Carolau’r Capel Cymraeg a thaith flynyddol i rywle yng Nghymru.
Mae yna hefyd Holyhead Road, lle saif Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg, ac mae gan y ddinas hefyd Glwb Rygbi Cymreig Coventry.
Bwriodd Wrecsam Coventry allan o Gwpan FA Lloegr gyda buddugoliaeth drawiadol 4-3 yn Arena CBS.
Sgoriodd Sam Dalby, Elliot Lee, Thomas O’Connor a Paul Mullin er mwyn cyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers y flwyddyn 2000.
Sgoriodd Ben Sheaf, Viktor Gyokeres a Kasey Palmer dros Coventry. Anfonwyd Jonathan Panzo o'r maes am lawio'r bêl yn fwriadol ar ôl hanner amser.
Llun gan Marc Jones.