Bronwen Lewis yn dychwelyd i leoliad ei gig gyntaf erioed
Mae Bronwen Lewis yn dychwelyd i leoliad ei gig gyntaf erioed ym mhennod ddiweddaraf y gyfres Canu Gyda Fy Arwr.
Dychwelyd i Dafarn y Gwachel ym Mhontardawe mae'r gantores a’r gyfansoddwraig o Gastell-nedd, er mwyn canu gyda thri pherson lwcus sydd wedi dweud mai hi yw eu harwr.
Y cyntaf ydy Rhys Evans, a roddodd y cyfle i Bronwen ganu yn Nhafarn y Gwachel fel rhan o’i waith gyda Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot.
“Fi ffaelu credu bo rhywun wedi dewis fi fel arwr,” meddai Bronwen.
“Byddai byth wedi credu yn 28 oed bod rhywun yn galw fi’n arwr. Lle arall byddaf yn perfformio ond canol y bydysawd – tafarn y Gwachel!”
Yr ail i berfformio gyda Bronwen yw un o’i chefnogwyr mwyaf, sef Dorian, sy’n gweithio fel peiriannydd oergelloedd yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd ei fod wedi dilyn gyrfa Bronwen ers y cychwyn cyntaf, gan gynnwys teithio'r holl ffordd i Gaernarfon i fwynhau un o’i pherfformiadau.
Côr Lleisiau Llawen yw'r olaf i ganu gyda Bronwen.
Un o’r arweinwyr, Ceri Bostock, sydd wedi enwebu’r côr gan eu bod nhw wrth eu boddau gyda Bronwen Lewis.
Wedi i'r holl berfformiadau ddod i ben, mae Bronwen yn trafod pwysigrwydd cerddoriaeth a'i thaith a wnaeth ddechrau yn Nhafarn y Gwachel 13 o flynyddoedd yn ôl.
"Mae cerddoriaeth yn un peth sy’n clymu ni gyd at ein gilydd, yn cysylltu ni," meddai.
"A heddiw, fi wedi teimlo pa mor lwcus ydw i i gael y swydd fi’n 'neud.”
Bydd Canu Gyda Fy Arwr yn cael ei ddarlledu am 20:00 nos Sul ar S4C.