‘Anodd’ i dafarn yn Aberystwyth fabwysiadu enw Cymraeg medd perchnogion

06/01/2023
The White Horse, Aberystwyth
The White Horse, Aberystwyth

Mae cwmni sy’n berchen ar dafarn yn Aberystwyth wedi dweud y byddai yn “anodd” mabwysiadu enw Cymraeg oherwydd ei fod yn adeilad rhestredig.

Roedd Cyngor y Dref wedi galw ar y dafarn y White Horse ar Stryd Portland i fabwysiadu enw Cymraeg, ar ôl gwrthwynebu cynllun ganddyn nhw i osod arwyddion newydd uniaith Saesneg.

Mae'r cais i osod yr arwyddion Saesneg yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan gyngor Sir Ceredigion.

Ond dywedodd y Cyngor Tref fod ganddyn nhw bryderon am “arwyddion wedi’u goleuo’n fewnol ac arwyddion uniaith Saesneg”.

Ychwanegon nhw: “Hoffai’r Cyngor hefyd ofyn yn garedig i’r perchnogion hefyd ystyried defnyddio’r enw Cymraeg h.y. Y Ceffyl Gwyn.

“Byddai hyn yn dangos synnwyr busnes da o ran denu cwsmeriaid lleol.”

‘Dim gwrthwynebiad’

Ond dywedodd llefarydd ar Stonegate Group sy’n berchen ar y White Horse nad oedd ganddyn nhw fwriad mabwysiadu enw Cymraeg.

“Oherwydd natur restredig yr adeilad, mae’n anodd addasu neu ychwanegu at enw’r dafarn,” meddai.

“Fodd bynnag, rydym yn edrych ar ffyrdd o fabwysiadu’r Gymraeg yn rhywle arall yn y busnes.”

Mae’r dafarn restredig Gradd II yn dyddio o 1834 o leiaf ac mae ei ffasâd yn cynnwys manylion Art Nouveau a gomisiynwyd gan ei berchennog ar y pryd, y Cyrnol John Rea o Gaerwrangon, sy’n dyddio o tua 1900.

Ychwanegodd y llefarydd ar ran y dafarn: “Rydym yn bwriadu buddsoddi’n sylweddol yn y Ceffyl Gwyn er budd y gymuned leol ac felly rydym wedi cyflwyno cais adeilad rhestredig i adnewyddu’r dafarn mewn modd sympathetig.

“Hyd yma, nid ydym wedi derbyn unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol i'r cais hwn a byddem yn croesawu trafodaeth uniongyrchol gyda'r cyngor lleol ynglŷn â'n cynlluniau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.